Sicrhau lle amlwg i'r Gymraeg yn I'm a Celebrity...

  • Cyhoeddwyd
CledwynFfynhonnell y llun, I'm a Celebrity
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cledwyn yn gweithio yn Yr Hen Siop

"Good evening! Noswaith dda!" mewn acen Newcastle yw beth mae miloedd o wylwyr y gyfres I'm A Celebrity... Get Me Out Of Here yn ei glywed bob nos ers rhyw wythnos bellach.

Mae'r gyfres boblogaidd eleni yn cael ei chynnal yng Nghastell Gwrych yn Abergele, yn hytrach nag yn Awstralia, oherwydd COVID-19.

Felly eleni, mae yna ymgynghorwyr y Gymraeg yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf, sef Garffild Lloyd Lewis a Siân Eirian, er mwyn sicrhau fod yna flas Cymraeg i'r rhaglen.

"Daeth cais rai misoedd yn ôl a oedd gennym ni ddiddordeb yn y gwaith ar ôl cadarnhad bod y rhaglen yn symud i ardal Abergele," meddai Garffild ar Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru. "Fe gafon ni gyfle i drafod yn eithaf anffurfiol beth y gallwn ni gynnig o ran ynganu a sillafu, cywair cyffredinol a delwedd Cymru.

"Rydan ni wedi bod yn gweithio'n agos efo'r tîm cynhyrchu yn cynllunio pethau o flaen llaw, er enghraifft rhoi enwau Cymraeg i fyny o amgylch y castell; 'Yr Hen Siop', 'Ystafell Ymolchi, 'Ar Gau'.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ant a Dec yn trio'u gorau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth gyflwyno

"Rydan ni hefyd wedi bod yn anfon llawer iawn o ffeiliau sain yn ôl a blaen at Ant a Dec ar sut i ynganu geiriau; weithiau ychydig ddyddiau cyn darlledu ac weithiau hanner awr cyn y rhaglen. Nos Sul fe gawson ni alwad rhyw 10 munud cyn y rhaglen yn gofyn sut oedd deud Deganwy a Chonwy yn iawn!

"Efallai nad ydyn nhw yn cael popeth yn hollol iawn drwy'r amser ond mae'r agwedd yn wych, a'r ffordd maen nhw'n trio delio efo hynny mewn sefyllfa fyw, ar raglen brysur ofnadwy hefyd."

Ystrydebol?

Pan gafodd y cyhoeddiad ei wneud bod y gyfres am gael ei lleoli yng Nghastell Gwrych, roedd yna drafod mawr ar un o hysbysebion cyntaf y rhaglen, a oedd yn cynnwys llawer iawn o ddefaid a dyn yn siarad ag acen Cymoedd de Cymru.

Nid oedd Garffild a Siân yn rhan o'r prosiect bryd hynny, ond yn ôl eu profiad nhw, meddai Garffild, mae'r cwmni yn barod iawn i dderbyn cyngor ac adborth er mwyn sicrhau fod popeth yn gywir.

"Falle bod pethau fymryn yn ystrydebol ar y dechrau ond [rŵan] maen nhw'n ymgynghori'n gyson ac yn checio eu bod nhw'n cael pethau'n iawn. 'Dan ni 'di cywiro nifer o bethau cyn iddyn nhw fynd ar yr awyr, ac maen nhw'n ymateb yn dda iawn."

Ffynhonnell y llun, I'm a Celebrity
Disgrifiad o’r llun,

Ar Gau mae'r siop gyntaf, wedyn Closed

Yn ddiddorol, nid oedd yna fwriad i'r Gymraeg fod mor flaenllaw ar y gyfres yn wreiddiol, meddai Garffild, ond fod y cwmni cynhyrchu bellach wrth eu boddau gyda'r syniad o allu gweld y Gymraeg o amgylch y castell a chael clywed ychydig ar yr iaith.

"Roedd Mark Baker Cadeirydd Ymddiriedolaeth Castell Gwrych wedi bod yn pwysleisio ar ITV bod yn rhaid canolbwyntio ar hyn a rhoi sylw call i'r Gymraeg. Mae gan ITV a'r criw cynhyrchu barch go iawn at yr iaith ac maen nhw'n trio'u gorau i wneud hyn yn iawn.

"Y bwriad oedd cyflwyno'r Gymraeg yn gynnil - nid gwneud gwersi iaith o'r peth - ambell air yma ac acw, a cyfle i'r Gymraeg gael ei chlywed a'i gweld gan filiynau.

"Rydan ni wedi bod yn trafod bod yn rhaid i'r iaith fod yn hwyl, dydyn ni ddim eisiau i'r iaith fod yn academaidd.

"Rydan ni eisiau iddyn nhw gael hwyl efo'r iaith ond ddim am ben yr iaith."

Hefyd o ddiddordeb: