Castell Gwrych yn denu diddordeb cyn I'm a Celebrity...

  • Cyhoeddwyd
castell

Fe allai Castell Gwrych yn Abergele fod yn gartref i ragor o raglenni fel 'I'm a Celebrity... Get Me Out Of Here!' wrth i gyfyngiadau Covid-19 rwystro cwmnïau cynhyrchu rhag gallu teithio'n bell, yn ôl y cyngor sir lleol.

Dywed Cyngor Conwy fod cwmnïau tu hwnt i Brydain wedi dangos diddordeb yn y safle er mwyn creu rhaglenni tebyg yn y flwyddyn newydd.

Dros y penwythnos fe fydd rhaglen ITV 'I'm a Celebrity...' yn dechrau darlledu o'r castell gyda Mo Farah a Victoria Derbyshire ymhlith yr enwau adnabyddus i gystadlu eleni.

Mae BBC Cymru wedi cael mynediad i'r set newydd i weld y paratoadau i drawsnewid y castell 200 oed.

Mae Abergele yn fyd gwahanol iawn i leoliad y cynhyrchiad fel arfer sef talaith De Cymru Newydd, Awstralia.

Go brin fydd yna dywydd poeth heb sôn am haul ac mae hynny wedi cynnig sawl her i'r cwmni cynhyrchu.

Eleni bydd y cystadleuwyr yn cysgu dan do nid yn yr awyr agored.

Fe fydd na ffwrnais i'w cadw nhw'n gynnes ac mae'r set newydd yn debyg i bentref canol oesol, nid jyngl.

Ond tra bod gymaint yn wahanol eleni mae nod y rhaglen yr un fath gydag enwogion yn dod ynghyd i geisio ennill sêr i fwydo eu cyd-wersyllwyr, a cheisio ymdopi â'r heriau neu bush tucker trials.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r set ar gyfer y gyfres wedi ei leoli mewn castell 200 oed

Mae'r castell llai na milltir o brif ffordd y gogledd, yr A55, ond mae waliau tal y castell yn llwyddo i guddio hynny.

Yr her fwyaf i'r rhaglen eleni ydy cadw pawb yn ddiogel, ac er mwyn gwneud hynny maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddara'.

Mae gan bob aelod o'r criw cynhyrchu declyn sy'n mynd yn eu pocedi, ac os ydyn nhw'n dod o fewn dau fetr ag aelod arall, mae'r ddyfais yn canu i'w hatgoffa i ymbellhau.

Mae 'na sawl ymgais hefyd i "barchu'r Gymraeg" yn ôl cadeirydd grŵp cadwraeth y castell.

Mae'r cymeriad adnabyddus 'Kiosk Keith' wedi gorfod aros yn Awstralia eleni, ac felly dyma gyflwyno 'Kiosk Cledwyn' i'r gyfres eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Un o nodweddion newydd y gyfres fydd 'Kiosk Cledwyn'

Yn ôl Mark Baker, Cadeirydd grŵp Cadwraeth Castell Gwrych roedd yn bwysig i'r Gymraeg a Chymru fod yn rhan amlwg.

"Roedd o'n rhan o'n trafodaethau gydag ITV am gynnal a pharchu'r iaith Gymraeg a'r diwylliant," meddai.

"Maen nhw wedi cyflogi arbenigwyr sydd wedi bod yn cynghori nhw ac roeddem yn teimlo bod o'n rhan ganolog a bod angen ei weu i'r stori."

Pum milltir o'r castell ac mae 'na gynnwrf a pharatoadau lu yng nghanol Abergele.

Gyda Chyngor y Dref wedi rhannu grant o £10,000 rhwng siopau'r stryd fawr i addurno eu ffenestri i gefnogi'r rhaglen mae sawl un yn teimlo bod Abergele yn gweld budd o'r rhaglen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Prys Jones y bydd y gyfres yn rhoi Abergele ar y map

Mae Prys Jones yn werthwr tai yn yr ardal.

"Mae rhywbeth fel hyn yn hysbys da ac mae o wedi rhoi Abergele ar y map," meddai.

"Fel dwi'n clywed mae rhai siopau wedi elwa - rhai bwyd a gwestai ac maen yna griw wedi rhentu tŷ drws nesa imi."

"O'n i'n siarad 'efo rhywun ac mae'r cigydd wedi cael gwahoddiad i hel bwced llawn llygaid defaid felly does wybod be ddigwyddith."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Conwy fod cwmnïau eraill wedi dangos diddordeb yn y castell

Yn ôl Cyngor Conwy mae Castell Gwrych rŵan yn dechrau denu mwy o ddiddordeb gyda chwmnïau o dramor wedi dangos awydd i ddefnyddio'r castell mewn ffordd debyg.

"Yn sicr fel cyngor da ni'n croesawu... a mae na fuddsoddiad go lew," meddai Goronwy Edwards, Dirprwy Arweinydd Cyngor Conwy.

"Fel dwi'n dallt mae 'na gwmnïau o dramor isio dod yma i ddefnyddio'r adnoddau sydd yn Abergele a 'neud rhaglenni eto."

Fe fydd rhaglen eleni yn edrych ac yn teimlo yn wahanol iawn ond gyda chefnogaeth y mwyafrif yn lleol mi fydd llygaid miliynau ar y dref o ogledd Cymru wrth i'r cyhoedd benderfynu pwy fydd Brenin neu Frenhines y Castell 2020.