Ymgyrchwyr i drafod pwerau ail gartrefi gyda'r prif weinidog

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae gweld ardal Nefyn "fel mynwent" yn y gaeaf yn "drist ofnadwy" meddai Rhys Tudur

Bydd ymgyrchwyr sy'n dweud bod "cymunedau Cymraeg yn marw" yn cyfarfod y prif weinidog yn ddiweddarach i drafod effaith cartrefi gwyliau ar ogledd orllewin Cymru.

Mae aelodau o Gyngor Tref Nefyn wedi bod yn galw am weithredu, gan ddweud bod pobl leol yn cael eu gorfodi allan o'u hardaloedd gan nad ydynt yn gallu fforddio prynu cartrefi.

Mae'r cynghorwyr eisoes wedi gorymdeithio am 20 milltir i ddenu sylw at yr ymgyrch, yn ogystal â chymryd rhan mewn rali yn ddiweddar.

Bydd y grŵp yn trafod gyda Mark Drakeford yn ddiweddarach, ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod yn adnabod yr heriau ddaw yn sgil ail gartrefi.

Mae'r cyngor yn dweud bod cartrefi mewn ardaloedd fel Pen Llŷn yn cael eu prynu fel ail gartrefi neu gartrefi gwyliau ar raddfa frawychus.

Wrth i'r prisiau godi, maen nhw'n dweud nad yw pobl yn gallu fforddio aros yn yr ardaloedd ble cawsant eu magu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth oddeutu 60 o bobl at ei gilydd mewn rali yn Llanberis dros y penwythnos

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Tudur, sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch, bod y pwerau sydd ar gael i gynghorau yn "gyfyngedig".

"Mae cymunedau Cymraeg yn marw, fel sydd i'w weld yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad diweddaraf ac arolwg o'r iaith sy'n cael ei ddefnyddio mewn ysgolion," meddai.

Ychwanegodd y byddai'n pwyso ar Mr Drakeford i roi'r pwerau i gynghorau sir osod cyfraddau treth uwch a newid cyfreithiau cynllunio er mwyn rheoli'r nifer o gartrefi sy'n cael eu trawsnewid yn gartrefi gwyliau.

Mae'r cyngor eisoes wedi dweud y dylai pawb sy'n prynu tŷ yng Nghymru dderbyn pecyn ymwybyddiaeth iaith wrth fynd drwy'r broses.

Problem 'gymhleth iawn'

Yn siarad yn y Senedd yn ddiweddar, dywedodd Gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru bod hwn yn fater "cymhleth iawn".

Ond ychwanegodd Eluned Morgan AS bod y llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod pobl leol yn gallu aros yn eu cymunedau.

Dywedodd hefyd mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU ble mae cynghorau yn cael codi premiwm treth y cyngor o hyd at 100% ar ail gartrefi.

Cyn y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod gweinidogion yn deall yr heriau y mae ail gartrefi yn eu hachosi o ran pa mor fforddiadwy yw tai mewn rhai cymunedau.