Gorymdaith i fynnu ateb i'r 'argyfwng ail gartrefi'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd un o'r ymgyrchwyr

Mae ymgyrchwyr wedi gorymdeithio o Nefyn i Gaernarfon gan alw am gamau i ddatrys yr hyn maen nhw'n ei alw'n "argyfwng ail gartrefi sy'n bygwth y Gymraeg" mewn ardaloedd gwledig fel Pen Llŷn.

Ymunodd protestwyr eraill â'r gorymdeithwyr - cynghorwyr tref yn Nefyn - yng Nghaernarfon gan alw ar Lywodraeth Cymru i atal cynnydd yn nifer y tai haf yng Ngwynedd.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i basio Deddf Eiddo newydd a datganoli Treth Trafodiad Tir i awdurdodau lleol.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi cyflwyno mesurau sy'n cydnabod yr her.

'Diffyg gweithredu'n dor-calon'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n "ddifrifol", medd y cynghorydd tref, Rhys Tudur

Dywedodd un o gynghorwyr tref Nefyn, Rhys Tudur: "Rwyf yn hynod siomedig gyda diffyg gweithredu ac ewyllys sydd gan Lywodraeth Cymru i ymafael ag argyfwng ail gartrefi.

"Nid oes ewyllys gwleidyddol gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd i ddatrys problemau cymunedau yma yng Ngwynedd a Môn.

"Mae diffyg gweithredu'r llywodraeth yn dor-calon wrth ystyried bod gormodedd o ail gartrefi mewn cymunedau yn arwain at anghydbwysedd enfawr sy'n niweidio llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n methu fforddio byw yn eu bro."

Disgrifiad o’r llun,

Ymgyrchwyr tu allan i bencadlys Cyngor Gwynedd ddydd Sadwrn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn derbyn heriau posib ail gartrefi a chartrefi gwag i'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn rhai o gymunedau Cymru.

"Rydym ar y trywydd cywir i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod term presennol y Senedd."

Ychwanegodd mai Cymru yw unig wlad y DU i roi pwerau i awdurdodau lleol godi lefelau treth cyngor uwch yn achos cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi.

"Mae ein Treth Trafodiadau Tir hefyd yn cynnwys tâl ychwanegol o 3% yn achos ail gartrefi a chartrefi sy'n cael eu prynu er mwyn eu gosod yng Nghymru, ac yn ddiweddar rydym wedi newid y meini prawf o ran cefnogaeth busnes i eiddo hunanarlwyo.

"Byddwn yn parhau i fonitro'r system yn fanwl a gwneud rhagor o newidiadau os oes angen."