Y Gynghrair Genedlaethol: Bromley 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth gôl yr ail hanner achub pwynt i Wrecsam a welodd eu golgeidwad Robert Lainton yn cael ei daro'n anymwybodol ar ôl gwrthdrawiad yn yr hanner cyntaf.
Bu oedi mawr yn y gêm wrth i barafeddygon roi triniaeth cyn mynd â Lainton i'r ysbyty, ond cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach.
Roedd perfformiad Wrecsam yn fratiog wedi'r digwyddiad, ac aeth Bromley ar y blaen drwy Michael Cheek.
Fe wellodd perfformiad y Dreigiau wedi'r egwyl gydag Adi Yussuf yn sgorio ei bedwaredd gôl o'r tymor.
Fe allai wedi ychwanegu ail yn ddiweddarach, ond yn y diwedd bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt.
Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn codi i'r pedwerydd safle.