Cynllun ynni yn gobeithio arbed arian a lleihau allyriadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith ar fin dechau ar un o'r cynlluniau mwyaf o'i fath i osod offer arbed ynni mewn cartrefi.
Bydd bron i 650 o dai yn ardal Penderi, Abertawe, yn derbyn technoleg glyfar ac offer storio ynni.
Cymdeithas tai cymdeithasol Pobl sy tu cefn i'r fenter sy'n derbyn £3.5m oddi wrth yr Undeb Ewroeaidd.
Dywedodd Julie Jaems y gweinidog tai fod y cynllun yn un fydd yn "trawsnewid" y sefyllfa.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn galluogi cartrefi i gynhyrchu hyd at 60% o'r trydan sydd ei angen arnynt, gan leihau costau ynghyd ag allyriadau carbon gan hyd at 350 o dunelli bob blwyddyn.
Mae Brian Mcallen yn un o'r rhai sydd eisoes wedi buddio o'r dechnoleg newydd. Roedd e'n croesawu'r ffaith fod y cynllun yn mynd i gael ei ehang
"Mae'n caniatáu i bobl weld go iawn sut mae ynni gwyrdd yn gweithio," meddai.
Fe fydd bob cartref yn derbyn thermostat clyfar a fydd yn caniatáu iddynt reoli'r gwres drwy ap.
Fe fydd y gwaith o ehangu'r cynllun yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad gyda'r cwmni cyflenwi adnewyddol, Sero.
Mae'r prosiect yn rhan o brosiect ehangach fydd yn gweld miloedd o dai yn elwa o ganlyniad i gytundeb £1.3bn ardal ranbarth Dinas Bae Abertawe - pe bai'r cynllun yn derbyn sel bendith llywodrathau Cymru a'r DU.
Byddai'n golygu y bydd 7,000 o'r stoc dai presennol yn elwa ynghyd â 3,300 o dai sydd yn y broses o gael eu hadeiladu.u.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020