Pro14: Gleision 10-19 Glasgow Warriors
- Cyhoeddwyd
Seliodd cais hwyr gan ganolwr tîm yr Alban, Huw Jones fuddugoliaeth y Glasgow Warriors dros y Gleision nos Sul yn y Pro14.
Mewn gêm agos, tair cic gosb a throsiad o Brandon Thompson sicrhaodd bod Glasgow'n ennill y gêm gan 19 pwynt i 10.
Sgoriodd Kristian Dacey cais i'r Gleision a chiciodd Jarrod Evans trosiad a chic gosb, ond nid oedd yn ddigon i drechu eu hymwelwyr.
Dim ond ail fuddugoliaeth Glasgow yw hwn mewn saith gem yn y Pro14.
Bu'r ddau dîm yn chwarae'n ymosodol yn yr hanner cyntaf, ond nid oedd gan naill dîm lot i ddangos am hwn gyda dim ceisiadau yn yr hanner cyntaf, a sgôr o 6-3 erbyn hanner amser.
Daeth cais cyntaf y gêm yn yr ail hanner gyda Dacey yn cipio'r bêl o Aled Summerhill 44 munud mewn, ac Evans yn trosi.
63 munud mewn, cafodd Gwilym Bradley garden felen am daro'r bêl ymlaen ar bwrpas, yn arwain at at gic gosb a rhoddodd Glasgow nol ar y blaen.
Deg munud cyn diwedd y gêm sgoriodd Glasgow trosgais arall ar ôl cipio'r bel o'r Gleision unwaith eto, gyda Glasgow'n diweddu'r gêm dau sgôr o flaen y tîm cartref.