'Ergyd fawr': Swyddi Debenhams yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
Siop DebenhamsFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae Debenhams fel nifer o siopau'r stryd fawr wedi dioddef effaith cyfyngiadau'r pandemig ar fasnachu

Mae na bryder am swyddi gweithwyr mewn wyth o siopau Debenhams yng Nghymru, wedi i ymdrechion i achub y cwmni fethu a dod o hyd i brynwr.

Y disgwyl ydy y bydd 12,000 o weithwyr yn colli eu swyddi pan fydd 124 o siopau Debenhams drwy'r DU yn rhoi'r gorau i fasnachu.

Yng Nghymru mae gan y cwmni siopau ym Mangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Llandudno, Llanelli, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.

Nid yw'n eglur faint o staff sydd yn cael eu cyflogi yn y siopau hyn.

Wrth ymateb i'r newyddion fod y gadwyn siopau i gau, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole: "Byddai colli siop mor flaenllaw fel Debenhams yn ergyd fawr i ganol tref Caerfyrddin a Pharc Manwerthu Trostre yn Llanelli.

"Er ein bod yn aros am newyddion pellach, hoffwn gynnig sicrwydd i'w staff y byddwn yn barod i gamu i mewn a chynnig unrhyw gymorth neu gefnogaeth fydd ei angen arnynt."

Daw'r newyddion am Debenhams oriau'n unig wedi i gwmni Arcadia, sy'n berchen ar Topshop, gael ei ddiddymu, gan roi 13,000 o swyddi yn y fantol.

Roedd Debenhams wedi bod yn nwylo'r gweinyddwyr ers fis Ebrill.

Fe gafodd unrhyw obeithion o ddod o hyd i brynwr i'r cwmni eu chwalu gyda'r newyddion fod cais cwmni JD Sports wedi ei dynnu'n ôl.

'Gadael bwlch enfawr'

Mae gwleidyddion sydd yn cynrychioli Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi disgrifio'r newyddion am dranc Debenhams fel "newyddion difrifol i Fangor".

Dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS mewn datganiad ar y cyd ddydd Mawrth:

"Mae'r newyddion hyn yn tanlinellu'r peryglon sy'n wynebu ein trefi a'n dinasoedd, wrth i lawer o fusnesau ei chael yn anodd goroesi trwy argyfwng Covid-19 a'r mesurau iechyd cyhoeddus sy'n cyfyngu ar gapasiti a galw.

"Byddai colli siop fel Debenhams yn ergyd fawr i unrhyw dref neu ddinas, ond byddai cau siop Bangor yn cael ei deimlo'n galed iawn gan ei bod mewn man canolog ar y stryd fawr. Byddai cau y siop yn gadael bwlch enfawr i'w lenwi yng nghanol y ddinas.

"Bydd y cyhoeddiad hwn yn arbennig o siomedig i'r staff, ac erfynwn ar Debenhams i'w cefnogi ar adeg pan na all ein heconomi leol fforddio ansicrwydd economaidd pellach."