Apêl Debenhams i achub pedair siop a channoedd o swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Debenhams wedi apelio mewn llythyr at Lywodraeth Cymru am gynnal adolygiad trethi busnes brys mewn ymgais i achub pedair siop yng Nghymru a "channoedd lawer o swyddi".
Aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr am yr eildro eleni ym mis Ebrill wedi i'r argyfwng coronafeirws gynyddu'r pwysau ar y busnes.
Mae'r cwmni'n dal i fasnachu ar-lein ac yn gobeithio ailagor 120 o siopau ar draws y DU wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio ar ôl dod i gytundeb gyda gwahanol landlordiaid.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "anghredadwy" i awgrymu y bydd eu penderfyniad i beidio rhoi cymorth trethi busnes i fusnesau mwyaf y wlad yn achosi cwymp Debenhams.
Siopau dan fygythiad
Rhybuddiodd y cwmni ddiwedd Ebrill fod pedair siop yng Nghymru dan fygythiad oherwydd y penderfyniad hwnnw, sy'n berthnasol i tua 200 o eiddo â gwerth trethiannol o £500,000 neu fwy.
Ers hynny, mae Debenhams wedi dod i gytundebau gyda chynghorau lleol i ohirio taliadau treth mewn cysylltiad â'u siopau yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Llandudno tan Fawrth 2021.
Golyga hynny fod y cwmni mewn sefyllfa i ailagor y siopau hyn pan fydd Llywodraeth Cymru'n codi'r cyfyngiadau sy'n berthnasol i siopau nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol, ond mae eu dyfodol hirdymor yn dal yn ansicr.
Yr wythnos ddiwethaf, mewn llythyr at Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, fe ofynnodd Mark Gifford, cadeirydd rhiant-gwmni Debenhams, iddi ganiatáu tribiwnlys ar-lein i adolygu'r trethi busnes.
"Gyda'ch cefnogaeth chi i gynnal tribiwnlysoedd ar-lein, byddai'r gweinyddwyr mewn sefyllfa i ailagor yr holl siopau yng Nghymru, gan achub cannoedd o swyddi yng Nghymru," ysgrifennodd.
"Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried hyn ar frys - rydym yn barod i ailagor ein holl siopau yng Nghymru pan fydd cyfyngiadau masnachu wedi eu codi."
Yn sgil y cytundebau i addasu trefniadau les, dywed Mr Gifford y byddai tribiwnlys adolygu'n sicrhau gostyngiad sylweddol yn nhrethi'r cwmni a byddai Llywodraeth Cymru, o'r herwydd, yn derbyn taliadau treth yn gynt.
Dywed yn y llythyr fod hi'n amhosib cynnal tribiwnlys o'r fath ar hyn o bryd oherwydd gofynion pellter cymdeithasol "oni bai fod Llywodraeth Cymru'n camu i'r adwy a chytuno y gallai tribiwnlysoedd gael eu cynnal ar-lein".
'Anghredadwy'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnawn ni ymateb i'r llythyr maes o law.
"Er ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw siopau Debenhams i ganol ein trefi, mae hwn yn fusnes sy'n wynebu proses methdalu am y trydydd tro mewn 12 mis.
"Yn syml, mae'n anghredadwy i awgrymu y bydd ein penderfyniadau rhyddhad rhag trethi busnes yn achosi cwymp Debenhams.
"Mae trethdalwyr eisoes yn darparu dros £1m mewn cefnogaeth trethi busnes i Debenhams ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020