Galw am bleidlais yn y Senedd cyn cyfyngu ar dafarndai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y sector eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r perygl o ledu'r feirws

Mae aelodau'r wrthblaid yn galw am bleidlais ar y cyfyngiadau diweddaraf i drechu Covid-19 cyn i dafarndai cael eu rhwystro rhag gwerthu alcohol.

Mae'r gwaharddiad yn dechrau ddydd Gwener pan fydd busnesau lletygarwch hefyd yn cael gorchymyn i gau am 18:00.

Ond mae aelodau'r Senedd yn annhebygol o gael pleidleisio ar y rheoliadau tan yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, hefyd wedi wynebu galwad o'i feinciau cefn i gyhoeddi tystiolaeth ar gyfer y cyfyngiadau.

Dywed y Ceidwadwyr fod y rheolau'n "gwbl anghymesur" mewn rhannau o Gymru lle mae cyfradd yr haint yn gymharol isel.

Maen nhw wedi galw am ddadl frys a phleidlais yn y siambr brynhawn Mercher.

Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Andrew RT Davies bod 'na berygl o "esblygu i mewn i gam-drin pŵer" ac y byddai'n "ddryslyd" i bobl weld y Senedd yn pleidleisio ar reoliadau sydd wedi bodoli ers 10 diwrnod neu fwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Plaid Cymru, sydd wedi cefnogi'r rhan fwyaf o gyfyngiad Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, yn dweud y dylai gweinidogion ddod o hyd i "gyfaddawd synhwyrol" sy'n caniatáu i alcohol gael ei weini tan 19:00 a chau busnesau yn hwyrach.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Dylid trafod penderfyniadau mor fawr, sydd ag effaith ar fywydau a bywoliaethau pobl, a phleidleisio arnynt cyn eu gweithredu."

Byddai hynny "hefyd yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r dystiolaeth a'r modelu sy'n sail i'w phenderfyniad", meddai.

'Ymddygiad yn newid'

Sawl gwaith yn ystod y pandemig, mae gweinidogion wedi defnyddio eu pwerau i newid y gyfraith mewn ymdrech i leihau coronafeirws cyn bo' pleidleisiau ffurfiol yn digwydd yn y Senedd.

Maen nhw'n dweud y bydd aelodau'n cael cyfle i bleidleisio ar gyfyngiadau mis Rhagfyr mewn amserlen sy'n dilyn rheolau'r Senedd.

Yn y siambr ddydd Mawrth dywedodd yr aelod Llafur, Alun Davies: "Os yw'r prif weinidog eisiau i mi ac eraill ei gefnogi yna mae'n rhaid iddo roi i ni'r dystiolaeth a'r cyngor y mae wedi'u cael gan ei ymgynghorwyr er mwyn ein galluogi i wneud hynny."

Tynnodd Mr Drakeford sylw at y ffaith y bydd hawl gan hyd at bedwar person o wahanol aelwydydd cyfarfod mewn bariau a chaffis, ond heb alcohol.

Ychwanegodd: "Y dystiolaeth yw pan fydd pobl yn yfed yna mae eu hymddygiad yn newid ac mae eu hymddygiad yn newid mewn ffyrdd sy'n eu gwneud nhw a phobl eraill yn fwy agored i'r feirws."

Heb weithredu'n bellach, dywedodd fod modelu'n awgrymu y byddai rhwng 1,000 a 1,700 yn fwy o farwolaethau yn digwydd y gaeaf hwn.

Roedd timau rheoli digwyddiadau "dro ar ôl tro" wedi tynnu sylw at broblemau gyda lleoliadau alcohol a lletygarwch mewn achosion, ychwanegodd.