Cyfyngiadau newydd yn 'sarhad' ar dafarndai a bwytai
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheolau newydd Covid-19 ar gyfer tafarndai a bwytai yn "sarhad" ar y diwydiant, yn ôl cwmni bragu mwyaf Cymru.
Dywedodd Alistair Darby o gwmni Brains bod angen i wleidyddion "stopio newid eu meddyliau" ynglŷn â pha reolau sydd eu hangen.
Yn ôl Mr Darby, fe fydd 100 o dafarndai y mae'r cwmni'n eu rheoli yn cau o ddydd Gwener, ac roedd y cyfnod clo byr diwethaf wedi costio £1.6m i'r cwmni.
Mae'r cwmni'n cyflogi 1,500 o weithwyr yn uniongyrchol ac mae ganddo 300 o denantiaid yn ogystal â chyflenwyr fel Castell Howell.
Mae Brains yn berchen ar 160 o dafarndai i gyd, ac yn berchen ar adeiladau 100 o'r 160 yma ac yn cyflogi'r staff yn uniongyrchol. Mae'r cwmni'n berchen ar 60 o'r adeiladau eraill ond yn gosod y busnesau i denantiaid.
Dywedodd Mr Derby nad oedd pobl yn deall canlyniadau'r cyfyngiadau diweddaraf a bod y llywodraeth i bobl pwrpas wedi atal tafarndai sy'n ddibynnol ar ddiodydd rhag masnachu.
"Mae hyn yn sioc llwyr. Mae drewdod ofnadwy o dotalitariaeth yn hyn," meddai.
Bydd tafarndai, caffis a bwytai Cymru yn cael eu gwahardd rhag gwerthu alcohol o ddydd Gwener, ac ni fydd hawl ganddyn nhw i agor i gwsmeriaid ar ôl 18:00.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y bydd y rheolau newydd yn mynd i'r afael â thwf mewn achosion coronafeirws.
Wrth ymateb i gwestiynau yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford fod y penderfyniad wedi ei wneud yng nghysgod ymlediad yr haint.
Ychwanegodd "nad oedd unrhyw benderfyniadau hawdd" yn y sefyllfa yma.
Penderfyniad 'catastroffig'
Disgrifiodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies AS y penderfyniad i orfodi busnesau i gau am 18:00 a'u hatal rhag gwerthu alcohol fel un "catastroffig" a "dinistriol".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn "cael ei erydu" o achos "diffyg rhesymeg" yn agwedd y llywodraeth.Mewn ymateb dywedodd Mr Drakeford nad oedd hi'n bosibl cael rhesymeg sy'n dal dŵr ar bob achlysur ac ar bob agwedd.
"Yr hyn sy'n rhaid i ni ofyn i bobl ei wneud yw cymryd y pecyn yn ei gyfanrwydd, ac mae'r pecyn cyfan wedi'i ddylunio yma yng Nghymru i'n rhoi ni'n ôl mewn sefyllfa lle gall ein gwasanaeth iechyd ymdopi â nifer yr achosion o goronafeirws, ac y gall y gwasanaeth iechyd barhau i wneud yr holl bethau eraill yr ydym angen iddo ei wneud, lle bydd bywydau'n cael eu hachub."Yn y cyfamser, mewn protest yn erbyn y cyfyngiadau newydd, mae Mr Drakeford wedi ei wahardd o dafarndai yn Llandudno a'r ardal gyfagos gan aelodau Grŵp Gwarchod Tafarndai Gorllewin Conwy.
Dim 'cydbwysedd perffaith'
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ddweud fore Mawrth ei fod yn deall pam fod dicter ymysg y diwydiant, ond nad oes unrhyw "gydbwysedd perffaith" o gyfyngiadau.
Dywedodd fod y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) o'r farn bod cyfyngu ar letygarwch a gwerthiant alcohol yn cael "effaith sylweddol" ar ledaeniad y feirws.
"Rwy'n deall pam eu bod nhw [Brains] a phobl eraill yn y sector yn drist, ond mae hyn yn gydbwysedd anodd o ran effaith y feirws a'r effaith ar fusnesau a swyddi," meddai Mr Gething.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Economi, Lee Waters wrth BBC Radio Wales na fydd y rheolau ar dafarndai a bwytai yn newid dros y cyfnod o bum niwrnod dros y Nadolig pan fydd hawl gan dri chartref i gwrdd dan do.
Ond mae Mr Darby yn dweud y bydd y penderfyniad yn cael effaith andwyol ar y diwydiant, gan ddweud bod y cyngor diweddaraf yn awgrymu bod tafarndai yn ardaloedd peryglus o ran Covid-19.
"Mae'n rhwystredig iawn ac yn sarhad. Mae'n awgrymu nad yw pobl yn gwneud ymdrech," meddai.
"Bydd yn cael effaith ar nifer enfawr o bobl sy'n gwneud bywoliaeth o'r sector, a'n cymunedau, na fydd yn cael cyfle i fynd i dafarn dros y Nadolig.
"Fy neges i wleidyddion ydy bod yn rhaid i chi stopio newid eich meddyliau ynglŷn â beth sydd ei angen yn y sector."
Dywedodd Mr Drakeford ddydd Llun y byddai'r cyfyngiadau newydd yn atal rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y mae modd eu hosgoi dros y gaeaf.
Bydd cronfa gwerth £340m ar gael i gefnogi cwmnïau sydd wedi'u heffeithio gan y cyfyngiadau - "y pecyn mwyaf hael" yn y DU, meddai Mr Drakeford.
'Sioc ac ergyd fawr'
Dywedodd Tom Simmons - cogydd o Sir Benfro sydd â bwyty yng Nghaerdydd - bod y cyfyngiadau wedi bod yn sioc i'r diwydiant.
"Roedden ni'n gwybod bod rhywbeth ar y ffordd, ond doedden ni ddim wedi sylweddoli y byddai mor llym, felly mae'n sioc ac yn ergyd fawr i ni," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn rhagweld y bydd peidio cael yr hawl i werthu alcohol yn golygu gostyngiad o 50-60% yn eu helw.
"Roedd y Nadolig yn edrych yn dda iawn - roedden ni'n bwriadu agor ddydd Nadolig ac roedd hynny wedi bod yn boblogaidd ond ar y funud dyw hi ddim yn edrych fel y bydd hynny'n ymarferol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020