Brexit: Cynlluniau porthladd Caergybi'n 'draed moch'

  • Cyhoeddwyd
Stena LineFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Porthladd Caergybi ydy'r ail brysuraf ym Mhrydain

Mae cynlluniau ar gyfer porthladd Caergybi yn "dangos yn union faint o draed moch" y mae gweinidogion y DU wedi gwneud o Brexit, yn ôl prif weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford fod llywodraeth y DU "yn sgrialu i ddatrys" materion ynghylch porthladd Ynys Môn union fis cyn i'r cyfnod pontio ddod i ben.

Daw ei sylwadau yn dilyn awgrymiadau y bydd caffi trafnidiaeth ar gyrion Caergybi yn cael ei droi'n safle tollau lorïau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi: "Rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a RoadKing i brynu'r safle i'w ddefnyddio fel lleoliad clirio mewndirol, a bydd yn cael ei baratoi ar gyfer defnydd fel rhan o gyflwyno rheolai ffiniau llawn yn 2021."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Senedd Ynys Môn: "Ar yr unfed awr ar ddeg hwn rydyn ni newydd weld panig llwyr."

Ond dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, y byddai'r safle newydd yn "dod â chyflogaeth sydd fawr ei hangen i'r ardal".

Mae angen tir ar gyfer gwiriadau tollau posib ar lorïau sy'n cyrraedd o Weriniaeth Iwerddon ym Mhorthladd Caergybi, sef yr ail borthladd masnach prysuraf yn y DU.

Mae cyngor Ynys Môn wedi gwrthod cais i ganiatáu i'r maes parcio a theithio ar gyfer sioe amaethyddol yr ynys gael ei ddefnyddio i gynnal cyfleuster lorïau ar ôl Brexit.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Rwy'n credu bod gennym benderfyniad o'r diwedd gan lywodraeth y DU i ddefnyddio arhosfan RoadKing yng Nghaergybi fel pwynt gwirio cludo nwyddau o fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

"Dwi ar ddeall bod y 28 o weithwyr yno wedi cael clywed y byddan nhw'n colli eu swyddi.

"Daw'r cyfnod pontio Brexit i ben fis i heddiw ac mae'n draed moch llwyr a'r diffyg parodrwydd yn hollol amlwg."

Ychwanegodd fod y cynnig yn "creu problemau newydd oherwydd bod yr arhosfan tryciau yn rhan hanfodol o seilwaith y porthladd - gan atal tryciau rhag gorfod parcio o amgylch y dref".

"Yr hyn yr oedd ei angen arnom oedd datblygiad ffin newydd yn ardal Caergybi, ond ar yr unfed awr ar ddeg hwn rydym newydd weld panig gwyllt, rwy'n credu, gan lywodraeth y DU sydd wedi rhoi sylw prin i anghenion Caergybi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai gorsaf newydd gael ei leoli mewn arhosfan loriau ar gyfer gwirio cludo nwyddau o 2021 ymlaen

Wrth ymateb, dywedodd Mr Drakeford fod gweinidogion llywodraeth y DU wedi "gwybod am y broblem hon o'r cychwyn cyntaf, a dyma ni".

Ychwanegodd y prif weinidog: "Mae'r aelod wedi nodi'r safle ar yr ynys sydd, yn ôl pob golwg, yn cael ei ffafrio gan lywodraeth y DU, ond nid wyf wedi eu gweld yn cyhoeddi hynny'n ffurfiol fel y lleoliad, hyd yn oed heddiw.

"Maen nhw wedi cael tair blynedd a hanner i fynd i'r afael â hyn ac maen nhw'n sgrialu ar y funud olaf mewn ymgais i'w datrys.

"Dim ond arwydd yw hwn o'r hyn sydd i ddod, ac mae'r rhai a ymgyrchodd drosto [Brexit] yn gyfrifol."

Dywedodd Ms Crosbie, a gafodd ei hethol yn AS Ynys Mon ym mis Rhagfyr y llynedd: "Nid yn unig y mae'n gwneud synnwyr logisteg i gynnal y cyfleuster yn agos at y porthladd, bydd hefyd yn dod â chyflogaeth fydd mawr ei hangen i'r ardal.

Ychwanegodd: "Mae Cyllid a Thollau EM mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru a RoadKing i brynu'r safle i'w ddefnyddio fel lleoliad gorsaf Clirio Menwol, ac fe fyddai'n barod i'w ddefnyddio wrth i'r rheolaethau ffiniau llawn gael eu cyflwyno gam wrth gam yn 2021.

"Rwy'n deall bod rhai staff wedi cael rhybudd o ddiswyddo."

Dywedodd Ms Crosbie y bydden nhw'n cael eu hystyried ar gyfer swyddi ar y safle newydd, "pe bydden nhw'n dymuno ymgeisio".