Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Altrincham

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Wrecsam eu curo gan Altrincham nos Fawrth, gan ddod â rhediad o bum gêm ddiguro yn y Gynghrair Genedlaethol i ben.

Tarodd Theo Vassell y trawst ym munudau agoriadol y gêm wrth i Wrecsam ddechrau'n gryf.

Ond, yn groes i rediad y chwarae, fe sgoriodd Richie Sutton i'r ymwelwyr reit ar ddiwedd yr hanner cyntaf gyda pheniad nerthol o gic gornel.

Roedd Elliott Durrell a Jordan Davies yn agos at sgorio yn yr ail hanner ond fe lwyddodd Altrincham i osgoi ildio a sicrhau'r pwyntiau.

Golyga'r canlyniad fod Wrecsam yn seithfed yn y tabl gyda 17 o bwyntiau.