Pryderon am godi tyrbinau gwynt uchel yn y Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o bentref Ynys-hir yng Nghwm Rhondda wedi dechrau ymgyrch i geisio atal codi dau dyrbin gwynt ger ei gartref - fe fyddai'r tyrbinau yn uwch na'r adeilad uchaf yng Nghymru, sef tŵr Meridian yn Abertawe.
Yn ôl Philip Thomas fe allai y cynllun achosi llifogydd ac mae'n poeni hefyd am lefelau sŵn.
Fel rhan o'i ymgyrch, mae Mr Thomas wedi bod yn annog pobl leol i gysylltu â'r adran gynllunio yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf i ddadlau fod y broses ymgynghori ynglŷn a'r cynllun yn annheg.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud fod pob ystyriaeth wedi'u rhoi i effaith posib y tyrbinau a bod y broses ymgynghori yn cydfynd ag anghenion deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
'Dim digon o hysbysebu'
Y bwriad yw gosod y tyrbinau 125m o uchder, uwchben Heol Llanwynno a theras Heath yn Ynys-hir ger Porth.
Yn ôl Mr Thomas mae tua 100 o dai o fewn 1km i'r safle, ac mae'n dweud nad oedd neb wedi cysylltu â nhw o'r adran gynllunio i ofyn eu barn. Doedd yna ddim chwaith, meddai, ddigon o hysbysebu wedi digwydd yn lleol am y tyrbinau.
Un o'i brif bryderon yw'r posibilrwydd o lifogydd wrth i 10,000 tunnell o goncrid gael ei osod yn sail i'r tyrbinau a hynny uwchben hen olion gwaith glo a thir corsiog. Mae'n dweud bod hanes o broblemau llifogydd yn yr ardal.
Ei bryder arall yw lefel y sŵn o'r datblygiad ac mae'n dweud bod angen asesiad annibynnol.
Ar hyn o bryd mae'r ardal, meddai Mr Thomas yn hafan i fywyd gwyllt ac adar a phryfed prin ac mae'n poeni hefyd beth fyddai'r effaith posib ar hynny.
Pan gafodd y cynllun ei gyflwyno gan gwmni Cenin Renewables o Ben-y-bont ar Ogwr yn 2017 roedd 34 o bobl wedi gwrthwynebu. Ond mae Mr Thomas yn dadlau nad oedd e'n gwybod dim am y datblygiad tan yn ddiweddar iawn.
'Wedi ystyried pob effaith posib'
Dyw cwmni Cenin Renewables ddim wedi ymateb i gais am sylwadau ynglŷn â chwynion Mr Thomas.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod y "broses ymgynghori yn 2017 yn unol â'r drefn sydd yn angenrheidiol yn ôl deddfwriaeth Llywodraeth Cymru".
Dyw'r ddeddfwriaeth, ychwanega'r llefarydd, ddim yn nodi bod yn rhaid ysgrifennu at bob cartref yn yr ardal.
Noda hefyd bod yr eiddo agosaf wedi'i hysbysu a "bod pob ystyriaeth wedi ei roi i unrhyw effaith posib ar bobl leol a'r system ddraenio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020