'Dim llinell ffôn na band eang am dros ddeufis'

  • Cyhoeddwyd
Tŷ Elen WormanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Oni bai am y diffyg cysylltiad ffôn a band eang, mae Elen Worman yn hapus iawn gyda'i chartref newydd

Mae un o drigolion ystâd newydd o dai cymdeithasol yn dweud nad yw'n ddigon da ei bod hi'n dal i fyw heb linell ffôn a gwasanaeth band eang dros ddeufis ers symud i mewn.

Mae Elen Worman yn byw ym Mharc yr Ysgol yn Aberdyfi - datblygiad newydd Adra, cwmni sy'n gyfrifol am 6,300 o gartrefi yng ngogledd Cymru.

Mae Adra wedi cydnabod pwysigrwydd gael mynediad i'r we, ac wedi ymddiheuro am yr oedi a'r anghyfleustra i'w gwsmeriaid.

Mae Parc yr Ysgol yn cynnwys 11 o lefydd byw - tai sydd â dwy a thair ystafell wely, fflatiau a byngalos.

Cawson nhw eu cwblhau dros yr haf a symudodd Elen i'w thŷ hi ddiwedd Medi. Ond er iddi gysylltu ag Adra sawl gwaith ers hynny, does ganddi ddim llinell ffôn na gwasanaeth band eang o hyd.

'Ddim digon da'

"Da ni'n hapus iawn fel arall - mae'n gynnes, mae'n gyfforddus ac mae'n dŷ hyfryd i fyw ynddo. Felly does gen i ddim cwyn o gwbwl fel arall. Ond does dim we, a dim llinell ffôn."

Mae Elen wedi prynu teclyn i gael mynd ar y we trwy signal 4G. Ond mae hi hefyd yn dweud nad yw'r derbyniad ar ei ffôn symudol yn dda iawn, sydd wedi gwneud pethau'n anodd i gadw cysylltiad gyda pherthynas sy'n byw dros y ffin.

"Mae gen i ewythr sydd mewn cartref yn Essex a bob tro dw i'n ffonio dw i'n colli signal, sydd yn beth mawr oherwydd da ni'n trio cysylltu â'n gilydd bron bob dydd.

"Un o'r prif bethau gyda'r tai yma oedd eu bod yn dod gyda'r band eang yma yn barod - ond dydy e ddim yma a dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd e yma chwaith.

"Mae rhywun yn teimlo fel ei bod yn cael ei rhoi o'r neilltu, fel tasen nhw'n dweud 'Fe ddown ni atyn nhw eto'.

"Dydy hynny ddim yn ddigon da yn y byd sydd ohoni, yn enwedig pan mae Llywodraeth Cymru yn ein hannog i weithio o adre, mae hyn yn rhwystr mawr."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ceblau'n dal heb eu cysylltu ar gyfer gwasanaethau ffôn a band eang

Oedi 'oherwydd y pandemig'

Mewn datganiad fe ddwedodd llefarydd ar ran Adra: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig ydy cael mynediad i'r we - a dyma pam ein bod yn rhwystredig ac yn ymddiheuro bod oedi fel hyn yn gallu achosi gymaint o anghyfleustra i'n cwsmeriaid.

"Rydym yn gweithio efo contractwyr allanol sy'n gyfrifol am sefydlu cysylltiad ffeibr er mwyn datrys hyn cyn gynted â phosib. Mae'r rheswm tu ôl i'r oedi sylweddol yn dod o ganlyniad i'r pandemig.

"Oherwydd materion fel prinder deunyddiau o fewn y gadwyn gyflenwi, mae gwaith brys wedi cael blaenoriaeth o flaen gwaith sydd wedi ei raglenni gan ddarparwyr rhwydwaith, ac mae nifer o staff y contractwyr allanol wedi gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid-19.

"Mae'r contractwr da ni'n gweithio efo wedi cadarnhau y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 14 o Ragfyr ac rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau y bydd y bobl sy'n byw yno yn cael cysylltiad ffeibr cyflym i'r we o'r dyddiad yna ymlaen."

Pynciau cysylltiedig