Ysgolion Blaenau Gwent i gau a symud gwersi ar-lein
- Cyhoeddwyd
Bydd holl ysgolion Blaenau Gwent yn cau ddydd Mercher nesaf, dros wythnos yn gynnar, gan gynnal gwersi ar-lein yn unig wedi hynny tan ddiwedd y tymor.
Dywedodd Cyngor Sir Blaenau Gwent fod y penderfyniad wedi cael "cefnogaeth unfrydol" penaethiaid, a swyddogion iechyd lleol, gan fod cyfraddau coronafeirws y sir ymhlith yr uchaf yng Nghymru.
O ddydd Iau, 10 Rhagfyr bydd "ysgolion yn parhau i ddarparu addysg safon uchel, ond trwy dechnolegau digidol, gan gynnwys platfform Hwb Llywodraeth Cymru".
Cafodd y penderfyniad ei wneud "er budd gorau a lles disgyblion a'u teuluoedd", medd yr awdurdod.
Roedd yr ysgolion i fod i gau ddydd Gwener, 18 Rhagfyr yn wreiddiol.
'Dyma'r penderfyniad cywir'
Dywed Cyngor Blaenau Gwent bod cau ysgolion "yn sicrhau y gall dysgu barhau tan ddiwedd y tymor, ac mae hefyd yn lleihau'r potensial i ddisgyblion orfod hunan-ynysu dros gyfnod y Nadolig".
Ychwanegodd bod nifer cynyddol o ddisgyblion a staff wedi gofod hunan-ynysu ar gyngor y gwasanaeth olrhain.
"Mae 18 o ysgolion y fwrdeistref wedi'u heffeithio nawr, gyda'r angen i dros 900 o ddisgyblion orfod hunan-ynysu ar hyn o bryd."
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, sy'n arwain ar faterion addysg y sir, eu bod "wedi gwrando ar arweinwyr ein hysgolion".
"Does dim amheuaeth o gwbl mai dyma'r penderfyniad cywir i ddysgwyr a'u teuluoedd, gan roi'r cyfle gorau iddyn nhw beidio wynebu'r Nadolig hwn yn hunan-ynysu," ychwanegodd.
Dywed y cyngor y bydd yna drefniadau i wneud taliadau yn achos teuluoedd sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Fis diwethaf fe alwodd undeb athrawon UCAC ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i ystyried cau holl ysgolion Cymru erbyn 11 Rhagfyr a symud dysgu ar-lein.
Pryder yr undeb oedd y gallai achosion positif mewn ysgolion yn ail hanner mis Rhagfyr olygu bod 'swigod' o ddisgyblion a staff yn gorfod hunan-ynysu ar ddydd Nadolig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020