Cwm Cynon: Dechrau profi torfol Covid-19 mewn ail ran o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Fe ddechreuodd y profi fore Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y profi fore Sadwrn

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio yng Nghwm Cynon Isaf yn cael cynnig prawf coronafeirws o ddydd Sadwrn ymlaen.

Bydd profion ar gael i bobl sydd heb symptomau, yn y gobaith o ganfod achosion cudd ac atal lledaeniad yr haint.

Dyma'r ail ardal yng Nghymru i gael profi torfol yn dilyn cynllun tebyg ym Merthyr Tudful.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae ardaloedd yng Nghwm Cynon Isaf wedi dangos rhai o'r cyfraddau uchaf o achosion Covid-19 yng Nghymru.

Yn yr wythnos hyd at 4 Rhagfyr, roedd 365.6 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth yn Rhondda Cynon Taf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i ddegau gael eu profi yn ystod y dydd

Mae pum ardal yn rhan o'r cynllun profi torfol ddiweddaraf:

  • Abercynon

  • Dwyrain Aberpennar

  • Gorllewin Aberpennar

  • Penrhiw-ceibr

  • De Aberaman

Bydd y profion cyflym ar gael mewn dwy brif ganolfan, yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon, Aberpennar a Chanolfan Chwaraeon Abercynon.

Profion cyflym fydd yn cael eu cynnig, a bydd canlyniadau ar gael o fewn 20-30 munud, meddai'r llywodraeth.

'Rhaid cymryd gofal hyd yn oed os yw'r prawf yn negyddol'

Os bydd rhywun yn cael canlyniad positif, bydd gofyn iddynt ddychwelyd adref a hunan-ynysu ar unwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig cymryd gofal os yn cael canlyniad negatif, medd Dr Kelechi Nnoaham

Mae Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn pwysleisio "fod canlyniad prawf negyddol ddim yn golygu ei bod yn amhosib dal yr haint yfory.

"Felly ry'n yn gofyn i bobl sy'n cael canlyniad negyddol i gadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd a golchi dwylo er mwyn lleihau'r siawns o gael yr haint neu ei drosglwyddo i eraill."

Bydd profion asymptomatig ar gael nes 20 Rhagfyr.

Mae John a Sian Thomas yn byw yng Ngodreaman, o fewn yr ardal lle mae profion yn cael eu cynnig, ac mae'r ddau'n bwriadu cael prawf yr wythnos nesaf.

"Dwi'n credu bod e'n beth da iawn", meddai Mr Thomas.

"Mae 'na gymaint o sôn wedi bod, bod rhan isa'r cwm, bod y rhifau wedi bod yn uchel, ac mae hwn yn siawns dda i edrych faint o'r bell mae wedi mynd.

"A phobl fel ni, ni'n meddwl bo' ni'n iawn, ond gallen ni fod yn asymptomatig."

Ychwanegodd Mrs Thomas: "Mae wedi bod yn eitha' llwyddiannus ym Merthyr, felly gobeithio byddwn ni'n dilyn - a gyda'r brechlyn yn dod nawr gobeithio bydd e'n codi ymwybyddiaeth yn y cwm."

Beth yw canfyddiadau profi torfol Merthyr Tudful?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ym Merthyr Tudful, mae nifer yr achosion wedi haneru ers mis yn ôl, ond mae'r nifer yn codi.

Ar ôl pythefnos, mae 20,000 o brofion wedi eu cynnal, gyda thua 200 ohonynt, neu 1%, yn bositif.

Cyfran fechan, ond hanfodol, meddai Sion Walker, Is-gadlywydd ym Mrigâd Cymru, sydd wedi bod yn cynorthwyo'r gwaith profi.

"Mae hwnna yn rhoi cyfle i bawb sy' o amgylch nhw i gymryd y mesuriadau sydd angen at eu gofal nhw, a protecto nhw o gael y feirws."

Wrth i fwy o bobl ddod am brawf, dywedodd hefyd bod modd dadansoddi pa godau post sydd ag achosion positif, a blaengynllunio ymhellach.

Ond nid pawb sydd wedi eu hargyhoeddi.

Dywedodd Evan Shepherd, perchennog cwmni tacsis yn y dref: "Ma' fe 'di cymryd lot o ymdrech gan y cyngor lleol a'r llywodraeth i setio'r testing stations 'ma lan…

"Ac i ddod 'nôl gyda 1% dwi ddim yn meddwl bod e'n lot i fod yn onest."

Mae cynllun Merthyr Tudful wedi helpu'r llywodraeth i "ddeall yn well nifer yr achosion yn y gymuned a faint o bobl sydd â'r coronafeirws", meddai'r Gweinidog Iechyd.

Ychwanegodd Vaughan Gething: "Hoffwn ddiolch i bawb ym Merthyr Tudful sydd wedi sicrhau llwyddiant y cynllun prawf a byddwn yn annog pobl yng Nghwm Cynon Isaf i gael prawf."

Mae'r profion yng Nghwm Cynon yn "rhan hanfodol o'n brwydr yn erbyn y feirws" meddai Arweinydd Cyngor Rhodda Cynon Taf, Andrew Morgan.

Mae cyfradd Covid-19 "yn uchel iawn o hyd yn ein cymunedau" meddai Dr Kelechi Nnoaham o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Ychwanegodd y gallai'r profion "chwarae rôl fawr i ddiogelu pawb yn ein cymunedau".