Pro14: Glasgow 22-23 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Jared RosserFfynhonnell y llun, @DragonsRugby
Disgrifiad o’r llun,

Cais godidog gan Jared Rosser ar ddechrau'r gêm yn Stadiwm Scotstoun

Mae'r Dreigiau wedi trechu Glasgow Warriors oddi cartref yn Yr Alban ond dim ond oherwydd bod y tîm cartref wedi methu trosi yn eiliadau olaf y gêm.

Roedd yna ddechrau da i'r Dreigiau yn Stadiwm Scotstoun yn Glasgow a hynny wedi i Jared Rosser sgorio cais ar ei hanner canfed ymddangosiad. Wedi trosiad llwyddiannus gan Sam Davies roedd y Dreigiau ar y blaen o saith i ddim.

Fe ddaeth cic gosb Sam Davies â thri phwynt arall i'r ymwelwyr. Roedd y Dreigiau ond yn chwarae gydag 14 dyn am rannau o'r hanner cyntaf gan bod Harrison Keddie a Jack Dixon wedi cael eu cosbi.

Wedi hanner awr fe ddangosodd yr Albanwyr eu cryfder ac wedi dau gais a throsi llwyddiannus roedd Glasgow ar y blaen hanner amser (14-10).

Roedd yna egni newydd yn chwarae'r Dreigiau yn yr ail hanner wrth i Brok Harris sgorio cais ac wedi trosi llwyddiannus gan Davies a chic gosb gan Glasgow roedd y ddau dîm yn gyfartal am gyfnod (17-17).

Ond yna dyma Sam Davies yn taro eto ac wedi cic gosb a gôl adlam roedd y Dreigiau chwe phwynt ar y blaen (17-23).

Roedd yna gryn bwysau gan Glasgow ar ddiwedd y gêm ac fe lwyddon nhw i sgorio cais yn yr eiliadau olaf ond gan iddynt fethu trosi - y Dreigiau oedd yn fuddugol o drech blewyn.

Y sgôr terfynol Glasgow 22, Y Dreigiau 23.

Pynciau cysylltiedig