Gallai gwaith diffygiol olygu bil o £1m i gyngor sir

  • Cyhoeddwyd
difrod tamprwydd

Gallai cyngor wynebu bil am waith adnewyddu o dros filiwn o bunnau, wedi i gwmni oedd yn cael ei rhedeg gan gynghorydd lleol gwblhau gwaith o ansawdd gwael ar dai pobl.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi cytundeb gwerth dros £300,000 i Green Renewable Wales Cyf, ar gyfer gwaith insiwleiddio ar 70 o dal yn Caerau ger Maesteg yn 2012.

Roedd hyn yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i daclo tlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon.

Fe wnaeth cyfarwyddwr ac ysgrifennydd y cwmni, Phil White sy'n gynghorydd Llafur - sefyll lawr fel aelod o gabinet y cyngor fis diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Nifer o gwynion

Fe gafodd Rhiannon Goodall, 37 oed, Green Renewable Wales i wneud gwaith yn ei chartref drwy'r cynllun yn 2012. Roedd yn cynnwys boeler newydd ac insiwleiddio waliau.

"Yn wreiddiol o ni meddwl bod y gwaith yn grêt. Roedd hyn yn mynd i helpu y tŷ gymaint, roedd y biliau yn mynd i gael eu lleihau, a byddai fy nghartref yn fwy cynnes, ac am y misoedd cyntaf roedd popeth i weld yn iawn, ond yna fe wnaeth y boeler dorri. Roedd y flue wedi cael ei osod yn anghywir. "

Roedd y cynllun Arbed 1 wedi ei gynllunio i helpu pobl oedd yn cael trafferth talu biliau nwy a thrydan yn rhannau mwyaf tlawd Cymru. Fodd bynnag, wedi i'r rhaglen Arbed 1 ddod i ben yn Caerau, un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, fe wnaeth nifer o gwynion am y gwaith ar waliau mewnol ac allanol.

Mae Rhiannon sydd yn byw yn y tŷ gyda'i merch 10 oed, a'i gwr anabl Wayne yn dweud bod archwiliad wedi datgelu nad oedd yr insiwleiddio wedi ei osod yn gywir, a bod dŵr wedi gollwng a rhewi gan arwain at leithder drwy'r cartref.

"Mae'n rhwystredig, ac yn dorcalonnus. Dwi heb baentio wal y gegin ers pum mlynedd nawr gan ei fod yn pilio i ffwrdd mewn mater o wythnosau ac yn edrych yn ofnadwy.

"Dwi ddim ishe fy nghartref i edrych fel hyn. Rwy'n cael gwared ar lwydni du bob dydd. Mae fy ngŵr yn anabl ac ar beiriant anadlu yn y nos, felly mae unrhyw beth gyda llwydni yn ddrwg i'w iechyd.

"Dwi wedi gwario £10,000 ar atgyweirio," ychwanegodd Rhiannon.

"Dwi'n nabod sawl un sydd wedi cael eu heffeithio fel fi, ond maen nhw yn oedrannus a ddim gyda'r arian i wario ar sortio y broblem. Maen nhw yn byw gyda'r cartref yn mynd yn waeth. Dwi chwaith yn methu gwario dim mwy ar hyn nawr.

"Ddylen ni ddim fod wedi talu am drwsio'r gwaith yn y lle cyntaf, ac yn sicir ddim aros wyth mlynedd nes i'r cyngor gyfadde bod yna broblem gyda'r gwaith gafodd ei wneud drwy y cynllun."

Roedd adroddiad annibynnol yn amcangyfrif costau o tua £16,000 y cartref.

Roedd yr adroddiad gan NuVision Energy Wales wedi ei seilio ar sampl o 32 o gartrefi yng Nghaerau gafodd waith o dan y cynllun.

Mae'n datgelu bod yna broblemau sylweddol gyda'r gwaith, o gwteri ddim wedi cael eu ffitio yn gywir i sêl diffygiol ar bibellau oedd wedi arwain at lwydni a lleithder.

Mae'r cyngor yn dweud ei bod wedi cyfeirio ei hunain i'r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn aros am adroddiad o adran archwilio y cyngor yn y flwyddyn newydd.

'Torcalonnus'

Dywedodd cynghorydd annibynnol Pen-y-Bont ar Ogwr, Steve Bletsoe bod pobl Caerau yn "flin iawn" am y cytundeb gwerth £315,875 gyda'r cwmni.

"Rydyn ni yn edrych ar gytundeb sydd yn werth tua traean o filiwn o bunnau, sut na ellid olrhain llwybr a defnydd unrhyw arian cyhoeddus dros £300,000 yn enwedig pan mae yma ddatganiad buddiant. Roedd ysgrifennydd a chyfarwyddwr y cwmni yn aelod o'r cabinet.

"Y gwir ydi bod pobl wedi gorfod byw mewn amodau annioddefol am gyfnodau hir o amser.

"Maen nhw wedi bod yn brwydro hwn dim ond er mwyn cael eu cartrefi mewn cyflwr lle y gallan nhw fyw ynddyn nhw, ac wedi arwyddo cytundeb oedd i fod i wella eu hinsiwleiddio a lleihau cost eu biliau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Deborah Evans, sydd yn 61 oed, wedi byw yn yr un tŷ yng Nghaerau ers dros 40 mlynedd. Mae ei mam anabl hefyd yn byw ar yr un stryd, ac fe gafodd y dwywaith yn eu cartrefi wedi ei gwblhau gan Green Renewable Wales Cyf.

"Fe ddywedon nhw y bydden ni yn arbed costau gwresogi, ond mae'r gegin a'r ystafell fyw yn rhewi," meddai Ms Evans.

"Mae gen i bapur wal yn hongian oddiar y waliau oherwydd y lleithder, rwy wedi ceisio ei adfer ond mae e'n syrthio i ffwrdd.

"Mae'n rhaid fi fyw gyda hyn bob dydd, mae'n dorcalonnus.

"Mae mam sydd yn 87 oed yn byw lan y ffordd, ac mae ganddi yr un problemau."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus, "bod cwyn wedi ei derbyn y gallai y Cynghorydd o Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr Phillip White fod wedi torri cod ymddygiad yr awdurdod".

"Mae yna ymchwiliad i'r gŵyn."

Fe gysylltwyd gyda Mr White, ond dywedodd na fyddai yn gwneud unrhyw sylw tra bod ymchwiliad yr Ombwdsman yn digwydd.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Yn dilyn adroddiad diweddar ar effeithlonrwydd cynllun Arbed 1, mae'r cyngor yn cysylltu gyda'r mudiadau perthnasol er mwyn sefydlu a gellid cytuno ar ffordd ymlaen sydd yn gyson.

"Wedi i'r trafodaethau ddigwydd, fe fydd adroddiad arall yn cael ei roi i'r Cabinet ar gyfer rhoi diweddariad ac amlinellu dewisiadau posib.

"Bydd adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn dilyn darn estynedig o waith sydd wedi darparu sicrwydd am reolaeth yr awdurdod a'r prosesau caffael ar gyfer grantiau allanol."

Pynciau cysylltiedig