Agor cwest i farwolaeth dyn 20 oed o Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Dean Harry SkillinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dean Harry Skillin yn dilyn adroddiadau o gythrwfl ym Mangor

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Mercher i farwolaeth dyn 20 oed fu farw yn dilyn ymosodiad honedig ym Mangor ym mis Medi.

Bu farw Dean Skillin o Gaernarfon yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn adroddiadau o gythrwfl y tu allan i Westy'r Waverley ar Stryd yr Orsaf yn y ddinas.

Clywodd y cwest fod Mr Skillin wedi marw oherwydd gwaedu ar yr ymennydd a thrawma i wythiennau.

Cafodd y cwest ei ohirio gan brif grwner dros dro y gogledd-orllewin, Katie Sutherland.

Mae dyn 24 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Mr Skillin.

Cafodd dyddiad cychwyn yr achos llys ei bennu ar gyfer 22 Mawrth, 2021 yn Llys y Goron Caernarfon.