Galw am eglurder wedi adroddiadau o gyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Caerdydd

Mae galwad am eglurder gan Lywodraeth Cymru yn sgil adroddiadau yn y wasg bod cyfyngiadau Covid llym yn cael eu hystyried o 28 Rhagfyr.

Mae gorsaf radio LBC yn dyfynnu ffynhonnell wrth ddweud bod cyfnod clo arall yn cael ei ystyried ar ôl y Nadolig.

Dywedodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies bod angen i'r prif weinidog wneud "datganiad brys" ar y mater.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gweinidogion yn adolygu'r cyfyngiadau yn gyson, gan gynnwys edrych ar fesurau pellach.

Dywedodd LBC nad oedd penderfyniad terfynol wedi ei wneud, ond bod system o haenau - fel sydd mewn rhannau eraill o'r DU - dan ystyriaeth.

Mae Mr Davies wedi galw am "ddatganiad llawn a chlir gan Lywodraeth Cymru ar sut maen nhw'n bwriadu dod â sefyllfa Covid dan reolaeth eto yng Nghymru".

Ar y Post Cyntaf fore Gwener, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod "gwneud dim, ddim yn opsiwn", gan alw am "ddatganiad clir a chynhwysfawr" gan y llywodraeth.