Galw am wahardd y defnydd o chwynladdwr ger ysgolion

  • Cyhoeddwyd
YmgyrchwynrFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Dywed ymgyrchwyr yn Nhorfaen y gallai'r chwynladdwr fod yn niweidiol i blant, oedolion, anifeiliaid anwes a gwenyn

Mae ymgyrchwyr yn galw am wahardd math arbennig o chwynladdwr rhag cael ei ddefnyddio ger ysgolion a meysydd chwarae wedi iddo gaei ei gysylltu gyda chanser.

Y llynedd daeth rheithgor yn yr UDA i'r casgliad fod chwynladdwr oedd yn cynnwys glyffosad (glyphosate) wedi bod yn "ffactor sylweddol" yn achos canser dyn.

Tra bod llawer o gynghorau wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r chwynladdwyr sydd yn cynnwys glyffosad, mae BBC Cymru wedi darganfod fod o leiaf 10 o gynghorau'n parhau i'w ddefnyddio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn anelu at leihau'r defnydd o chwynladdwyr cemegol.

Mae rhai gwledydd wedi gwahardd y defnydd o'r chwynladdwr sydd yn cynnwys glyffosad.

Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr hefyd wedi rhoi'r gorau i'w ddefnyddio o achos pryderon am ddiogelwch.

Cyflwyno deisebau

Er fod ei ddefnydd wedi cael sêl bendith yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer o ddeisebau wedi eu cyflwyno mewn cymunedau yng Nghymru i gynghorau yn galw am waharddiad, gan leisio pryderon am ddiogelwch trigolion, anifeiliaid anwes a byd natur.

Daeth un astudiaeth gan y Cenhedloedd Unedig i'r casgliad fod y cemegyn, sydd yn weithredol yn y rhan fwyaf o chwynladdwyr, "ymhob tebyg yn garsinogenaidd".

Ond dywedodd yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd fod glyffosad yn annhebygol o achosi canser mewn pobl.

Yn Ewrop, mae trwydded yr UE ar gyfer glyffosad yn parhau mewn grym hyd at mis Rhagfyr 2022.

Yn dilyn Brexit, fe fydd deddfau'r UE sy'n rheoli'r defnydd o chwynladdwyr ym Mhrydain yn parhau i fod mewn grym.

Tra bydd modd i weinidogion Llywodraeth Cymru wneud penderfyniadau perthnasol am chwynladdwyr o 1 Ionawr ymlaen, fe fydd corff awdurdodi chwynladdwyr newydd yn dod i rym yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Louise Kirby
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louise Kirby wedi dechrau chwynnu'r palmentydd yn lleol er mwyn atal y cyngor rhag defnyddio chwynladdwyr

Y llynedd, ar ôl gweld rhybudd am waith trin chwyn ger ei chartref yng Nghwmbrân, cychwynnodd Louise Kirby ymgyrch i geisio atal y cyngor rhag chwistrellu chwynladdwyr.

Mae cyngor Torfaen yn un o nifer yng Nghymru sy'n defnyddio cynhyrchion sy'n cynnwys glyffosad i reoli chwyn, ac yn dweud ei fod yn cael ei ddefnyddio i drin mannau bychain o chwyn.

Ond dywedodd Ms Kirby fod gweithwyr wedi cael eu ffilmio yn chwistrellu heb offer diogelwch priodol, gan gyrru o gwmpas yn ei chwistrellu dros ddraeniau.

"Roedd [un o fy ffrindiau] yn cerdded gyda'i blentyn i'r ysgol ac roedd mor gryf y gallai ei flasu," meddai.

"Mae'n cael effaith dros amser ar y corff, ac nid yw pobl o reidrwydd yn ymwybodol ohono, maen nhw'n parhau i'w chwistrellu ar balmentydd a thu allan i ysgolion."

Mae mwy na 1,000 o bobl bellach wedi llofnodi dwy ddeiseb unigol yn galw am atal y chwistrellu ac mae trigolion wedi cychwyn grŵp gweithredu hefyd.

Ond ar ôl i adroddiad ddweud bod ei ddefnydd yn bwysig i atal chwyn rhag achosi "perygl o faglu" ac i atal chwyn rhag lledaenu, pleidleisiodd y cyngor i barhau i'w ddefnyddio.

Clywodd cynghorwyr y byddai newid i ddefnyddio Foamstream - dewis arall sydd yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd - yn costio 15 gwaith yn fwy.

Ond mewn datganiad dywedodd Torfaen ei fod wedi lleihau'r defnydd o gynnyrch sy'n seiliedig ar glyffosad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Grŵp Gweithredu Trigolion Torfaen
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau o Grŵp Gweithredu Trigolion Torfaen wedi cofnodi'r achosion pan welwyd gweithwyr yn chwistrellu chwynladdwr, a hynny weithiau heb offer diogelwch

Gyda'r gwaith o dorri gwair wedi lleihau yn ystod y pandemig coronafeirws, roedd Ms Kirby wedi mynd i'r afael â'r chwyn yn ei chymuned ei hun, wrth geisio atal cemegolion rhag cael eu chwistrellu ac mae'n annog eraill i wneud yr un peth.

Mae ymgyrchwyr nawr am weld cynghorau ledled Cymru yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r cemegau.

Gofynnodd BBC Cymru i bob un o'r 22 cyngor a oedden nhw'n dal i ddefnyddio chwynladdwyr oedd yn cynnwys glyffosad yn eu hardaloedd.

O'r 10 cyngor wnaeth ymateb, dywedodd bob un eu bod yn dal i'w ddefnyddio, ond roedd llawer wedi cyfyngu ar ei ddefnydd, neu'n edrych ar ddewisiadau gwahanol.

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg ei fod yn dal i'w ddefnyddio mewn "rhai sefyllfaoedd", ond ei fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio chwynladdwyr mewn parciau Baner Werdd ac ardaloedd chwarae ers 2018 ac wedi defnyddio Foamstreamyn ei le.

Dywedodd Cynghorau Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd mai defnydd cyfyngedig o chwynladdwyr oedd yn cael ei wasgaru, a dywedodd Cyngor Powys nad oedd bellach yn ei chwistrellu mewn ardaloedd lle'r oedd nifer uchel o ymwelwyr.

Dywedodd Cyngor Conwy ei fod yn edrych ar ddewisiadau gwahanol, a dywedodd Cynghorau Gwynedd a Sir Benfro eu bod yn defnyddio'r cemegolion ond yn edrych ar ddulliau mwy cyfeillgar o drin chwyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yng Ngheredigion, fe adolygodd y cyngor ei ddefnydd o'r cynnyrch ar ôl i bron i 200 o bobl lofnodi deiseb.

Yn Wrecsam mae'r cyngor wedi prynu chwistrellwr ewyn ac mae wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio chwynladdwyr ger ysgolion.

Ym Merthyr a Sir Fynwy, dywedodd y cynghorau fod contractwyr wedi symud i chwistrellu mwy penodol oedd wedi'i dargedu a'u bod yn ystyried opsiynau eraill.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymgynghori â llywodraethau eraill y DU ar gynllun pum mlynedd ar gyfer defnydd mwy cynaliadwy.

"Rydym yn cyflwyno ystod o gamau i leihau'r defnydd o chwynladdwyr cemegol yng Nghymru," meddai llefarydd, gan dynnu sylw at brosiectau i amddiffyn gwenyn ac ardaloedd natur.

"Rydym yn darparu cyllid a chefnogaeth i awdurdodau lleol a rheolwyr tir eraill sy'n defnyddio chwynladdwyr i fabwysiadu technegau a thechnolegau sy'n darparu dulliau amgen o reoli plâu, afiechydon a chwyn."

Pynciau cysylltiedig