Holi barn ymgeiswyr Ceidwadol am ddiddymu'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg y bu'n rhaid i ymgeiswyr y Blaid Geidwadol mewn un rhanbarth ateb sut y byddan nhw'n pleidleisio mewn refferendwm ar ddiddymu Senedd Cymru.
Roedd yn un o dri chwestiwn y bu'n rhaid i ymgeiswyr y Ceidwadwyr ar restr Canol De Cymru ei ateb fel rhan o'r broses dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Mae un ffynhonnell o fewn y blaid yn dweud nad oedd yn fwy na "chwestiwn ar hap" ac na ddylid rhoi gormod o sylw iddo.
Ond mae un arall yn dweud ei fod yn dangos "awydd cryf i ddiddymu [y Senedd] o fewn y Blaid Geidwadol".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthod cais am sylw.
Ym mis Tachwedd cafodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei ddyfynnu gan wefan y Sun yn dweud wrth ASau Ceidwadol mai datganoli oedd "camgymeriad mwyaf" y cyn-brif weinidog Tony Blair.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, wedi dweud yn y gorffennol mai llywodraethau Llafur "sydd wedi dinistrio datganoli yng Nghymru".
Araith a thri chwestiwn
Mae pôl piniwn diweddaraf YouGov, dolen allanol yn awgrymu bod 71% o'r rhai sy'n bwriadu pleidleisio i'r Ceidwadwyr yn pleidleisio yn yr etholaeth ac y byddai 67% o'r rhai sydd wedi dweud y byddan nhw'n pleidleisio dros y Blaid Geidwadol yn y rhanbarth yn cefnogi diddymu y Senedd petai refferendwm.
Fel rhan o broses ffurfio rhestr fer y Ceidwadwyr ar gyfer dewis ymgeisydd yn rhanbarth Canol De Cymru roedd gan ymgeiswyr bum munud i wneud araith ac ateb yr un tri chwestiwn.
Yn ogystal â chael eu holi am sut y byddan nhw'n pleidleisio mewn refferendwm ar ddiddymu'r Senedd, fe ofynnwyd i ymgeiswyr hefyd am eu blaenoriaethau a sut y byddan nhw'n cydweithio ag aelodau'r etholaethau.
Dywedodd un ffynhonnell o'r blaid: "Mae'r math yna o gwestiwn yn cael ei holi mewn amrywiol brosesau dethol. Dyw hwn ddim yn gwestiwn newydd."
Dywedodd ffynhonnell arall: "Ry'ch yn deall pam bod pobl yn gofyn y cwestiwn, gan nad ydynt am i ni gael ein baglu ar y mater fel ddigwyddodd gyda Brexit."
Yn ôl David Melding, sy'n sefyll i lawr fel un o Aelodau o'r Senedd y Ceidwadwyr ar gyfer Canol De Cymru yn etholiad 2021, nid ydy diddymu'r Senedd yn bolisi gan y blaid.
"Nid wyf yn credu y byddai cwestiwn o'r fath wedi cael ei gymeradwyo gan y [Ceidwadwyr Cymreig]," meddai.
Jonathan Morgan heb ei ddewis
Cafodd wyth ymgeisydd eu dewis i gyd. Roedd yr AS presennol a chyn-arweinydd y Blaid, Andrew RT Davies, yn cael ei ddewis beth bynnag ac roedd tri lle ar y rhestr i ferched yn unig.
Chafodd Jonathan Morgan, a fu ar un adeg yn cynrychioli'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd ac sydd ar hyn o bryd yn cynghori arweinydd y blaid Paul Davies, ddim mo'i ddewis.
Wrth ymateb ar ei chyfrif Twitter, dywedodd Laura Anne Jones - sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru - ei bod wedi'i synnu ac yn siomedig o glywed y newydd gan fod Mr Morgan yn gaffaeliad i'r blaid yn nyddiau cynnar y Cynulliad a bod ganddi barch at ei ymroddiad a'i waith caled.
Dywedodd Richard John sy'n gynghorydd Ceidwadol yn Sir Fynwy ei fod ef hefyd wedi cael sioc a bod "Jonathan yn un o'r aelodau mwyaf talentog".
Dywedodd ffynhonnell arall wrth BBC Cymru y "dylid ystyried pwy yw cadeirydd y Ceidwadwyr yn y rhanbarth ac efallai nad oedd e am gael ymgeisydd medrus a phoblogaidd i gystadlu yn ei erbyn".
Y Cynghorydd Vincent Bailey, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Sir Morgannwg yw cadeirydd y blaid yn rhanbarth Canol De Cymru.
Roedd Mr Bailey yn arfer gweithio i Andrew RT Davies pan oedd yn arweinydd y Ceidwadwyr.
Dywedodd Jonathan Morgan: "Wedi bod yn aelod o'r Cynulliad ar ran y Blaid Geidwadol am 12 mlynedd ac yn weinidog cysgodol, rwy'n credu fy mod wedi dangos y gallwn gyflawni gofynion y swydd.
"Yn y naw mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio gydag amrywiol wasanaethau cyhoeddus, rwyf bellach yn cadeirio cymdeithas dai o bwys ac yn cynghori arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd.
"Ry'n ni angen pobl sydd â phrofiad y tu hwnt i'r byd gwleidyddol ynghyd â phobl sydd yn gallu dangos eu bod wedi gwneud y gwaith," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020