Cwpan Pencampwyr Ewrop: Caerfaddon 19-23 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
GDFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies yn sgorio cais ar ei 200fed ymddangosiad i'r Scarlets

Fe lwyddodd y Scarlets i ddal eu gafael a sicrhau buddugoliaeth wych yn erbyn Caerfaddon yng Nghwpan y Pencampwyr.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen trwy Gareth Davies, gyda'r mewnwr yn sgorio cais ar ei 200fed ymddangosiad i'r rhanbarth, o flaen torf o 2,000 ar y Rec.

Ond roedd Caerfaddon ar y blaen 14-10 ar yr egwyl diolch i gais Ruaridh McConnochie a chicio Ben Spencer.

Aeth Will Stuart dros y llinell gais i ymestyn mantais Caerfaddon, cyn i'r ymwelwyr daro'n ôl gyda chais gan fewnwr arall - Kieran Hardy yn croesi'r tro hwn.

Y bytholwyrdd Leigh Halfpenny giciodd gweddill y pwyntiau i'r Scarlets, oedd yn chwarae heb Liam Williams, James Davies, Rhys Patchell, Johnny Williams, Johnny McNicholl, Ken Owens ac Aaron Shingler.

Fe lwyddodd y Scarlets i wrthsefyll pwysau trwm gan Gaerfaddon yn hwyr yn y gêm - gyda Halfpenny ei hun yn gwneud yn wych i atal Josh Matavesi rhag tirio.

Seren y gêm: Steff Evans

Caerfaddon: Anthony Watson; Joe Cokanasiga, Jonathan Joseph, Cameron Redpath, Ruaridh McConnochie; Josh Matavesi, Ben Spencer; Beno Obano, Tom Dunn, Will Stuart, Josh McNally, Charlie Ewels (capt), Mike Williams, Sam Underhill, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Jack Walker, Juan Schoeman, Christian Judge, Elliott Stooke, Josh Bayliss, Zach Mercer, Will Chudley, Semesa Rokoduguni.

Scarlets: Leigh Halfpenny; Ryan Conbeer, Tyler Morgan, Steff Hughes (capt), Steff Evans; Dan Jones, Gareth Davies; Wyn Jones, Ryan Elias, Samson Lee, Jake Ball, Sam Lousi, Blade Thomson, Jac Morgan, Sione Kalamafoni.

Eilyddion: Marc Jones, Rob Evans, Javan Sebastian, Morgan Jones, Josh Macleod, Kieran Hardy, Angus O'Brien, Jonathan Davies.

Pynciau cysylltiedig