Un wedi marw a thri yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
llanandras

Mae un person wedi marw ac mae tri arall yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys ddydd Sadwrn.

Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i'r digwyddiad ar yr A44 yn Walton ger Llanandras (Presteigne) am 17:33.

Fe ddefnyddiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru offer llaw i dorri pobl yn rhydd, a bu'n rhaid diffodd fflamau yn y digwyddiad hefyd.

Bu farw un person yn y fan a'r lle a chafodd y rhai eraill a anafwyd eu cludo i Ysbyty Sir Henffordd.

Nid yw eu hanafiadau yn rhai sy'n peryglu bywyd.

Bu'r ffordd ar gau am sawl awr ar gyfer gwaith ymchwilio i ddamweiniau.

Pynciau cysylltiedig