Cymru i wynebu Awstralia a Ffiji... eto
- Cyhoeddwyd
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer rownd agoriadol Cwpan Rygbi'r Byd 2023 pan fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Ffrainc.
Fe fydd Cymru yng Ngrŵp C gydag Awstralia, Ffiji, Ewrop 1 (y tîm ddaw ar frig rowndiau rhagbrofol Ewrop) ac enillydd rownd derfynol ragbrofol (ail gyfle).
Roedd Awstralia, Fiji a Chymru gyda'i gilydd yn y grŵp yng Nghwpan y Byd 2019, pan ddaeth Cymru ar frig y grŵp.
Gorffennodd Cymru yn bedwerydd yn 2019 gan golli i Seland Newydd yn yr ornest am y fedal efydd.
De Affrica yw pencampwyr y byd ar ôl trechu Lloegr yn y rownd derfynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020