Annog siopa yn lleol dros yr ŵyl... a thu hwnt

  • Cyhoeddwyd
Llinos Griffin / Angharad WaltersFfynhonnell y llun, Llinos Griffin / Angharad Walters

Eleni, wrth wneud ein siopa Nadolig, mae nifer ohonom ni wedi ceisio osgoi prysurdeb siopau mawr y dref, ac yn hytrach wedi gwneud mwy o'n siopa gyda busnesau lleol, bach.

Mae Llinos Griffin ac Angharad Walters yn ddwy sy'n ceisio annog defnyddio busnesau bach eleni, yn hytrach na rhoi ein harian i gwmnïoedd mawr.

'Cael pobl i feddwl yn fwy lleol'

Yn ardal Penrhyndeudraeth, mae Llinos yn rhan o Byw. Bod. - grŵp o fusnesau lleol a gafodd ei sefydlu ddechrau'r flwyddyn er mwyn estyn cefnogaeth i'w gilydd mewn cyfnod mor anodd.

"Beth ydi o ydi bo' ni' gyd yn cefnogi ein gilydd fel busnesau bach," meddai Llinos, sydd yn diwtor iaith hunan-gyflogedig. "Fel busnesau, mae 'na rai ohonon ni wedi bod fflat owt yn gweithio, a rhai wedi dechrau, a gorfod stopio eto, sydd ddim wedi bod yn hawdd o gwbl.

"Tra bo' ni'n gallu cefnogi ein gilydd, dydi'r bobl sy' bia'r busnesau 'ma ddim yn teimlo ar ben eu hunain. A 'dan ni i gyd yn bownsio oddi ar ein gilydd am syniadau a thrio cael pobl drwy'r drws ac i wario yn lleol."

Ffynhonnell y llun, Lara Usherwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae becws y brodyr, Jack, Finn a Steff, yn un o'r 18 busnes sydd yn rhan o Byw. Bod.

Felly ar gyfer y Nadolig, mae'r grŵp wedi creu tocyn anrheg y gallwch chi ei brynu fel rhodd i rywun, ac y gallai gael ei wario yn unrhyw un o'r 18 o fusnesau, sydd yn amrywio o gaffi a siop gornel, i athro pilates a gweithdy celf.

"Mae 'na wbath ynddo fo i bawb; fedri di ei wario fo ar fyrgyr, neu neges wythnosol, neu treatio dy hun i brofiad unigryw neu ddarn o emwaith," meddai Llinos. "Mae 'na gymaint o bethau fedri di wario fo arno fo. Gall o fod yn rhywbeth bach mewn hosan 'Dolig neu fedri di brynu profiad go lew i rywun. Mae 'na sgôp anferth yn yr 18 busnes 'ma.

"Mae o'n gyfle i bobl gael profiadau gwahanol yn yr ardal, sydd yn rhywbeth newydd mewn ffordd. Be' ydi o ydi hyrwyddo busnesau bach lleol, ond hefyd hyrwyddo profiadau i bobl sy'n ymweld â'r ardal - ac yn hynny dwi'n golygu pobl leol hefyd.

"Fel arfer pan mae pobl yn meddwl am brofiadau, ti'n meddwl am y pethau mawr 'ma, ond mewn ffordd mae o mor werthfawr bo' ti'n medru mynd am dro eitha' lleol a dysgu pethau newydd am fyd natur."

Aros yn lleol

Mae Llinos wedi sylwi fod pobl leol yn gwerthfawrogi'r opsiwn o'r tocyn anrheg fel nad ydyn nhw'n gorfod mentro i'r trefi mawr, rhywbeth nad ydyn nhw efallai yn teimlo mor gyfforddus yn ei wneud eleni.

"Fel arfer mae o'n draddodiad bron iawn yn yr ardal yma fod pawb yn gwneud ei drip i Gaer neu Lerpwl i wneud ei siopa 'Dolig, ac o bosib fydd hynny ddim yn digwydd eleni.

"Felly mae o fel rhyw fath o one stop shop - ti'n medru prynu'r tocyn anrheg 'ma, a ti'n medru sicrhau fod y pres yn aros yn lleol."

Ffynhonnell y llun, Lara Usherwood
Disgrifiad o’r llun,

Llinos Griffin

Yn ôl Llinos, mae'r tocyn anrheg wedi bod yn boblogaidd, a'r gobaith yw y bydd yn rhywbeth fydd yn cael ei gynnig drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig dros gyfnod yr ŵyl, ac y bydd y busnesau sydd yn rhan o Byw. Bod. yn gallu parhau i gynnig cefnogaeth i'w gilydd.

"Mae hi'n ddyddiau cynnar, yn amlwg - dydi hyn erioed wedi cael ei 'neud o'r blaen yn yr ardal 'ma - ond gobeithio'i fod o'n hedyn bach i bobl ddechrau meddwl yn wahanol.

"Mae hyn yn ffordd i ni ddod at ein gilydd fel pobl busnes yr ardal i roi hwb i'n gilydd, hybu busnesau lleol i hyrwyddo'n hunain a'n gilydd, ac hefyd i bobl leol weld be' sy' 'na ar eu stepen drws, ac i gael pobl i feddwl yn fwy lleol."

'Cael y busnesau bach Cymreig 'ma mas 'na'

Ffynhonnell y llun, Angharad Walters
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Walters

Angharad Walters sydd yn cynnal y cyfrif Twitter @CymruWrthGalon, sy'n hyrwyddo busnesau annibynnol, Cymreig. Dim ond ym mis Awst y sefydlodd y cyfrif, ond mae hi wedi gweld cynnydd aruthrol, meddai, yn y bobl sydd yn ymwneud â'r cynnwys mae hi'n ei rannu, wrth i bobl droi ati am ysbrydoliaeth am anrhegion Nadolig gan gwmnïau bach, lleol.

"Mae 'na lawer yn dweud 'siopwch yn lleol, siopwch yn annibynnol' ond dydyn nhw ddim yn gwneud lot mwy o ymdrech na hynny. Dwi'n credu fod angen mwy o eiriolwyr ar gyfer busnesau bach.

"Mae'n rhywbeth dwi wrth fy modd yn ei wneud. Mae e wedi tyfu nawr; mae gennym ni tua 300 o fusnesau bach annibynnol na fyddai, mae'n siŵr, wedi cael yr exposure, os na fydden ni wedi agor y cyfri."

Mae nifer o fusnesau yn gwneud llawer o'u gwerthu ar-lein y dyddiau yma, wrth i bobl geisio peidio, neu yn methu, ymweld â siopau. Ond nid yw'n hawdd iawn i fusnesau bach gael sylw os nad oes pobl yn gwybod amdanyn nhw, meddai Angharad.

Dyma lle mae hi'n dod i mewn - mae hi wedi creu rhestr o fusnesau bach Cymreig mae hi'n gwybod amdanyn nhw, mae hi'n ail-drydar negeseuon gan fusnesau ac yn tynnu sylw ei dilynwyr at fusnesau bach a chynnyrch penodol. Mae hi'n gwneud gwaith hyrwyddo ar ran busnesau sydd yn ei chael hi'n anodd i wneud hynny eu hunain, meddai.

"O'n i mewn siop yn Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, a soniodd merch ei bod hi'n gwneud addurniadau serameg i'r goeden, ac roedd merch arall yn gwneud hetiau a sgarffiau. Ydyn, maen nhw ar wefannau gwerthu, ond os nad wyt ti'n gwybod am y pethau 'ma ac yn mynd i chwilio amdanyn nhw yn benodol, yna ti ddim yn mynd i ddod ar eu traws nhw.

"Nes i ofyn am ei manylion hi [er mwyn eu hyrwyddo]. Weithiau dwi'n meddwl fod pobl ofn ei wneud e eu hunain, ond os oes rhywun arall yn rhedeg gydag e, ac maen nhw'n cael ymateb gadarnhaol, dwi'n meddwl fod pobl yn cael ychydig bach mwy o hyder wedyn.

"Mae gen ti rai pobl sydd yn wych o ran eu marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond falle mai dim ond rhyw 200 o ddilynwyr sydd ganddyn nhw, lle mae gan y cyfrif yma bron i 4,000 - mae'r dudalen yma jest yn rhoi platfform mwy iddyn nhw."

Cynnyrch unigryw, o safon

Mae Angharad, meddai, wedi gwneud ei holl siopa Nadolig eleni o'r cwmnïoedd mae hi'n eu hyrwyddo. Mae hi wrth ei bodd gyda safon y cynnyrch sydd ar gael, ac yn teimlo fod gwerth mawr i brynu cynnyrch gan gwmni annibynnol.

"On'd yw e mor lyfli i feddwl eich bod chi ddim wedi mynd i mewn i siop cwmni corporate enfawr ac wedi pigo rhywbeth lan oddi ar y silff?! Dyna dwi'n ei garu amdano fe. Diwrnod o'r blaen, brynais i gannwyll gan gwmni cwyr gwenyn, ac o'dd e wedi cael ei lapio mor hyfryd. Mae hynny jest yn dweud cyfrolau, achos ti'n gallu gweld bod y bobl 'ma yn gweithio mor galed.

"Gallwch chi fynd i siop fawr unrhywbryd a phrynu anrheg, ond maen siŵr fod 30,000 o bobl eraill yn derbyn yr un anrheg! Mae'r canhwyllau brynais i yn unigryw - maen nhw wedi cael eu gwneud gan rywun gyda'u dwylo eu hunain - ac mae meddwl wedi mynd iddo fe.

"Dwi jest yn falch ein bod ni'n helpu pobl - y rhai sydd eisiau gwneud eu siopa 'Dolig, a'r bobl sydd yn rhedeg y busnesau, sydd, gobeithio, yn gwerthu pethau o ganlyniad i beth ry'n ni'n ei 'neud.

"Dywedodd rhywun y noson o'r blaen ei fod e wedi gwneud ei holl siopa Nadolig o bethau oedd wedi cael eu rhannu ar fy nhudalen i, ac mae hynny jest yn grêt!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig