Y Gynghrair Genedlaethol: Weymouth 2-3 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Wrecsam i daro'n ôl a chipio'r tri phwynt yn erbyn 10 dyn Weymouth, ar ôl ildio dwy gôl yn hanner cyntaf y gêm.
Sgoriodd Theo Vassell ddwywaith mewn dau funud hanner ffordd drwy'r ail hanner - peniad o gic gornel ac ergydiad wedi rhediad cryf.
Seliodd Reece Hall-Johnson y fuddugoliaeth wedi 90 o funudau.
Roedd Josh McQuoid wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen wedi tair munud yn unig o chwarae.
Daeth ail gôl Weymouth - peniad o'r gornel gan Jake McCarthy - wedi 26 o funudau.
Mae Wrecsam wedi codi i'r wythfed safle wedi'r canlyniad, gyda 20 o bwyntiau.