Llywodraeth Cymru'n barod i herio mesur ôl-Brexit yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrexitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mesur wedi bod yn un dadleuol iawn yn y gwledydd datganoledig

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn barod i fynd i'r llys er mwyn atal Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU.

Mae Senedd Cymru eisoes wedi gwrthod y gyfraith ar fasnach ôl-Brexit o fewn y DU yn dilyn honiadau y byddai'n niweidiol i ddatganoli.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud y byddai'r mesur yn trosglwyddo pwerau o Gymru i Lundain.

Dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, bod Llywodraeth Cymru "yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i ddiogelu'r Senedd yn wyneb yr ymosodiad cwbl gywilyddus gan Lywodraeth y DU ar ei chymhwysedd deddfwriaethol".

Yn ôl y gweinidog mae modd herio'r mesur am ei fod yn mynd yn erbyn gallu'r Senedd i ddeddfu, sy'n deillio o Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006).

Beth ydy'r mesur?

Mae'r mesur yn dweud, os yw hi'n gyfreithiol gwerthu rhywbeth mewn un rhan o'r DU, y byddai modd ei werthu yn holl wledydd y DU.

Nod y mesur ydy helpu busnesau i osgoi rheolau sy'n ei gwneud yn anoddach i fasnachu ar draws ffiniau pedair gwlad y DU.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai'n tanseilio gallu'r Senedd i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau.

Mae'r mesur yn gweithio ei ffordd trwy San Steffan ar hyn o bryd, ond mae ansicrwydd amdano'n parhau am nad yw Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn gallu cytuno arno.

Mae Senedd Yr Alban eisoes wedi penderfynu peidio â chymeradwyo'r mesur, ac mae pleidlais debyg wedi cael ei chynnal yn erbyn y mesur yng Ngogledd Iwerddon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles y gellir dehongli'r gyfraith fel ei fod yn gwrthddweud Deddf Llywodraeth Cymru (2006)

Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Mercher, dywedodd Mr Miles pe bai'r mesur yn cael ei basio ar ei ffurf bresennol, y byddai'n "tanseilio cwmpas y setliad datganoli yng Nghymru a byddai'n creu ansicrwydd".

Ychwanegodd y gallai'r mesur olygu bod pwerau'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn cael eu "lleihau yn ddifrifol".

"Mae'r darpariaethau yn y Bil hefyd yn gweithredu mewn modd mor eang a dwfn fel eu bod yn bygwth cyfyngu ar allu'r Senedd i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd," meddai.

Dywedodd Mr Miles, oherwydd hynny, bod Llywodraeth Cymru yn barod i'w herio'n gyfreithiol os fydd Senedd y DU yn ceisio deddfu'r mesur.

"Rydym wedi rhoi gwybod yn ffurfiol i Lywodraeth y DU heddiw os bydd Senedd y DU yn ceisio deddfu'r Bil ar ei ffurf bresennol, fy mod yn bwriadu cymryd camau ar unwaith i geisio declarasiwn gan y Llys Gweinyddol na ellir yn gyfreithlon dorri ar gwmpas deddfwriaeth gyfansoddiadol fel hyn ac na ellir dehongli'r Ddeddf a ddaw o ganlyniad fel ei bod yn cael yr effaith honno," meddai.

Ychwanegodd Mr Miles ei fod wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth y DU o fewn pythefnos.