Cymraeg yn gweld y cynnydd mwyaf yn y DU ar ap ieithoedd
- Cyhoeddwyd
Erbyn hyn, y Gymraeg yw'r iaith sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig ar yr ap iaith Duolingo.
Dywedodd Duolingo fod nifer y dysgwyr Cymreig newydd sy'n defnyddio'r ap wedi cynyddu 44% yn 2020.
O'r herwydd mae'n cael ei gydnabod fel yr iaith sy'n tyfu gyflymaf ar yr ap, uwchlaw Hindi, Japaneaidd, Twrceg a Ffrangeg.
Dywedodd yr ap iaith ei fod wedi gweld "newidiadau yn cyflymu" ymhlith pobl yn y DU yn "dysgu am hwyl, nid oherwydd dyletswydd" ers coronafeirws.
Cymraeg bellach yw'r nawfed iaith fwyaf poblogaidd i'w dysgu ar yr ap yn y DU.
Dywedodd dysgwr newydd, Myla Corvidae, sy'n byw yn Aberdeen yn Yr Alban ond a fagwyd yng Nghaerdydd, ei bod hi'n "teimlo fy mod i'n colli darn ohonof fy hun" wrth weld arwyddion ffyrdd dwyieithog pan oedd hi'n fengach.
Dywedodd bod ei dyslecsia wedi ei hatal rhag dysgu gyda dulliau mwy traddodiadol.
"Mae fy nheulu bob amser yn dweud ei bod hi'n bwysig eich bod chi cofio'ch gwreiddiau a dathlu eich diwylliant," meddai.
"Mae dysgu Cymraeg yn fy ngalluogi i deimlo mwy o gysylltiad â lle y cefais fy ngeni, a threftadaeth Cymru.
"Dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod lle gallaf ddarllen llyfrau a gwrando ar gerddoriaeth yn y Gymraeg a deall yr agweddau diwylliannol nad yw cyfieithiadau yn aml yn llwyddo i'w cyfleu."
Dywedodd Colin Watkins, rheolwr Duolingo yn y DU: "Nid wyf yn credu y gellir tan-amcangyfrif faint o gyflawniad yw hi i'r Gymraeg fod ar y brig yn yr ieithoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.
"Rydyn ni wedi gweld twf mawr yn niwylliant Japan ac Asia, ac mae'r cwrs Cymraeg wedi bod o gwmpas ers ychydig flynyddoedd bellach - felly mae'n syndod, ond rydyn ni wrth ein bodd ei fod wedi dwyn ffrwyth."
Dywedodd Mr Watkins hefyd fod data'n dangos mai "dysgwyr Cymraeg yw rhai o'r rhai mwyaf ymroddedig yn y byd" gan eu bod yn drydydd ar gyfer y rhai mwyaf ymroddedig gyda'r cyfnodau dysgu hiraf.
Hyd yma mae mwy na 1.5 miliwn o bobl wedi dechrau dysgu Cymraeg ar Duolingo.
Dywedodd yr ap iaith eu bod wedi darganfod yn ei adroddiad iaith 2020 ar ddysgwyr y DU fod "y newid yn ganlyniad i bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg i gysylltu â'r wlad a gweld y Gymraeg yn ffynnu fel iaith".
Dywedodd fod hyn "yn cael ei yrru'n rhannol gan addysg, gyda 23% yn dewis ysgol fel eu prif gymhelliant".
Dywedodd Duolingo hefyd fod llawer o bobl bellach eisiau dysgu oherwydd diddordeb yn niwylliant a threftadaeth Cymru ac eisiau "hyfforddi'r ymennydd", fel un ferch yn ei harddegau o Rwsia a benderfynodd ddilyn y cwrs ar ôl iddi weld enw'r pentref Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2019