Gorbryder: 'Plant yn poeni am gael Covid-19 a marw'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jane, Deion, Jamie a LewisFfynhonnell y llun, Jane Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Griffiths bod pryder ei phlant wedi cynyddu ar ôl i'w gŵr, Deion, golli ei swydd

Mae mam o Sir y Fflint yn dweud bod un o'i phlant wedi bod yn gofyn a yw am farw o Covid-19, wrth i arolwg awgrymu bod 47% o blant yn ddioddef o orbryder.

Dywedodd Jane Griffiths, 47, bod ei phedwar o blant oll wedi cael eu heffeithio gan bwysau'r pandemig.

Mae'r ymchwil gan elusen Action for Children yn awgrymu bod dros hanner plant Cymru yn credu bod eu rhieni'n poeni am wneud y Nadolig yn ddymunol.

Roedd mwy na thraean o'r plant a holwyd yn poeni am gael coronafeirws a marw, tra bod 47% yn dweud eu bod yn delio gyda gorbryder (anxiety).

Dywedodd Ms Griffiths, o Gei Connah, bod pryder ei phlant wedi cynyddu ar ôl i'w gŵr, Deion, golli ei swydd mewn melin bapur lleol, ac o ganlyniad roedd yn rhaid torri 'nôl ar gostau.

'Mae hi wedi bod yn anodd'

"Fe gollodd fy ngŵr ei swydd a doedden ni ddim yn gallu cael ffyrlo am ei fod yn weithiwr asiantaeth," meddai.

"Mae hi wedi bod yn anodd - mae'n rhaid i chi dorri 'nôl a pheidio cymryd y plant i gymaint o lefydd.

"Maen nhw'n gwybod na fyddan nhw'n cael yr un faint eleni ar gyfer y Nadolig.

"Ond teulu sy'n bwysig adeg y Nadolig beth bynnag - dyna'r prif beth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Tad Dominic Cawdell yn rhedeg "clwb bwyd" wythnosol ac yn helpu canfod anrhegion Nadolig i blant

Dywedodd Brigitte Gater, cyfarwyddwr Action for Children Cymru, wnaeth gynnal yr ymchwil gyda YouGov, bod y pandemig wedi golygu bod llawer yn fwy o deuluoedd bellach yn byw mewn tlodi.

"Lle mae plant wedi arfer gweld eu rhieni'n mynd i'r gwaith, mae ton newydd o rieni yn treulio eu Nadolig cyntaf ar Gredyd Cynhwysol, ac yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd," meddai.

"Maen nhw'n ceisio sicrhau bod teganau ac anrhegion Nadolig i bawb, yn ogystal â biliau a rhent, felly mae 'na lawer o orbryder am gael eu gyrru o'u cartrefi neu fenthyg arian - oll er mwyn ceisio ei wneud yn amser dymunol i'r plant.

"Fe ddywedodd rhai o'r rhieni a holwyd gennym ni y bydden nhw'n canslo'r Nadolig eleni pe bai modd gwneud hynny."

'Dydyn nhw ddim yn deall'

Mae'r Tad Dominic Cawdell o Eglwys Sant Pedr yn Nhreffynnon yn rhedeg "clwb bwyd" wythnosol, ble gall pobl brynu hyd at 15 eitem am £2, ac mae hefyd yn helpu canfod anrhegion Nadolig i blant.

"Mae rhieni yn poeni am fynd yn sâl, yn poeni y bydd eu plant yn mynd yn sâl, yn poeni am eu sefyllfa ariannol oherwydd dydy nifer o bobl sy'n gweithio'n achlysurol neu sydd ddim â gwaith sefydlog wedi gallu cymryd mantais o gynlluniau'r llywodraeth," meddai.

"Mae'n anhygoel faint y mae plant yn sylweddoli arno, ac maen nhw'n gwybod pan fo'u rhieni yn bryderus - dydyn nhw ddim yn deall, ond maen nhw'n gwybod bod eu holl fyd wedi newid."

Pynciau cysylltiedig