Toulon yn gwrthod herio'r Scarlets wedi achos positif
- Cyhoeddwyd
Mae'r gêm rhwng y Scarlets a Toulon yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, oedd i fod i gael ei chwarae brynhawn Gwener, wedi cael ei chanslo.
Dywedodd Toulon eu bod wedi penderfynu peidio â chwarae ar ôl deall ddydd Iau bod un o chwaraewyr y Scarlets wedi cael prawf positif am Covid-19 yr wythnos hon.
Cafodd y gêm rhwng Caerfaddon a La Rochelle y penwythnos hwn ei chanslo ddydd Iau am fod 12 o chwaraewyr y clwb o Loegr yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad gyda'r chwaraewr o'r Scarlets yn eu gêm y penwythnos diwethaf.
Oherwydd hynny mae Toulon wedi gwrthod chwarae'r gêm ym Mharc y Scarlets, oedd i fod i ddechrau am 17:30 ddydd Gwener.
Wedi i'r chwaraewr - sydd heb ei enwi - brofi'n bositif bu'n rhaid iddo ef a'i gysylltiadau agos hunan-ynysu, ac felly ni fyddai ar gael ar gyfer y gêm ddydd Gwener.
Roedd hynny'n ddigon i fodloni trefnwyr y gystadleuaeth, ond nid tîm rheoli Toulon.
'Ymwybodol o'r canlyniadau difrifol'
Maen nhw'n dweud bod y Scarlets, Undeb Rygbi Cymru a threfnwyr y gystadleuaeth - EPCR - eisiau i'r gêm fynd yn ei blaen.
Dywedodd llywydd clwb Toulon, Bernard Lemaitre ei fod wedi siarad gyda'r EPCR i bwysleisio mai "iechyd y chwaraewyr a'u teuluoedd ydy'r flaenoriaeth".
Fe wnaeth yr EPCR gadw at ei benderfyniad ei bod yn ddiogel i chwarae'r gêm, cyn i Toulon wrthod gan ddweud eu bod yn "ymwybodol o'r canlyniadau difrifol" o wneud hynny.
Dywedodd yr EPCR ei fod wedi dilyn y canllawiau a phenderfynu bod modd i'r gêm fynd yn ei blaen, a'i fod hefyd wedi cynnig chwarae ddydd Sul er mwyn rhoi amser i'r holl chwaraewyr gael eu hailbrofi.
'Scarlets yn siomedig'
Dywedodd y Scarlets mewn datganiad bod y clwb yn "siomedig" na chafodd y gêm ei chwarae.
Mae'r clwb wedi cadw at reolau'r gystadleuaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, meddai'r datganiad, ac yn sgil adolygiad allanol, roedd y trefnwyr yn "fodlon i'r gêm gael ei chwarae".
"Cyrhaeddodd Toulon i Barc y Scarlets fore Gwener i baratoi a doedd dim awgrym nad oedden nhw eisiau chwarae.
"Roedd ein chwaraewyr a hyfforddwyr yn barod am beth ddylai fod yn gêm wych o rygbi Ewropeaidd ar Barc y Scarlets."
Ychwanegodd y clwb bod cynnig wedi ei wneud i Toulon i chwarae'r gêm ddydd Sul yn dilyn profion ychwanegol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020