Tlws yr FA: Wrecsam 0-0 Leamington (5-6 ciciau o'r smotyn)

  • Cyhoeddwyd
Tlws yr FAFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam allan o gystadleuaeth Tlws yr FA ar ôl colli mewn her ciciau o'r smotyn yn erbyn Leamington.

Yn dilyn 90 munud di-nod roedd rhaid dibynnu ar sgiliau'r chwaraewyr yn unigol, a'r gol-geidwad, i benderfynu pwy fyddai'n ennill ac yn sicrhau eu lle'n yr ail rownd.

Methodd Kaiman Anderson â chweched Leamington ond arbedwyd cic gosb James Horsfield gan Jack Weaver.

Trosodd Jack Edwards seithfed Leamington cyn i Weaver arbed cic Anthony Jeffrey i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm o Gynghrair Cenedlaethol y Gogledd.

Pynciau cysylltiedig