Cwpan Pencampwyr: Bordeaux-Begles 47-8 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Canolwr y Dreigiau Jack Dixon yn cael ei rwystro gan dîm Bordeaux-BeglesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Canolwr y Dreigiau Jack Dixon yn cael ei rwystro gan dîm Bordeaux-Begles

Fe gollodd y Dreigiau eu hail gem o'r bron yng Nghwpan y Pencampwyr nos Sadwrn i Bordeaux-Begles.

Fe sgoriodd y Ffrancwyr saith cais i gyd, gydag asgellwr yr Ariannin Santiago Cordero yn sicrhau tri chais a'r maswr Matthieu Jalibert yn sgorio 15 pwynt.

Sgoriodd canolwr Cymru, Nick Tompkins, gais cysur hwyr i'r Dreigiau.

Mae'r Dreigiau, a oedd wedi mynd i Ffrainc heb 17 o'u chwaraewyr, wedi cael eu llethu gan anafiadau a salwch yn ystod eu hymgyrch gyntaf yng Nghwpan y Pencampwyr ers 10 mlynedd.

Ymhlith y rhai oedd ar goll oedd chwaraewyr rhyngwladol Cymru Ross Moriarty, Aaron Wainwright ac Ollie Griffiths, tra bod canolwr Llewod Prydain ac Iwerddon, Jamie Roberts, wedi cael ei orffwys.

Roedd y rhanbarth wedi parhau a'u taith i Ffrainc er iddyn nhw gofnodi tri achos Covid-19 positif yn gynharach yn yr wythnos.

Pynciau cysylltiedig