Cwpan Her Ewrop: Gweilch 38-29 Caerwrangon
- Cyhoeddwyd
Fe sicrhaodd y Gweilch ei hail fuddugolaeth - a phwyntiau bonws - wrth iddyn nhw guro Caerwrangon nos Sadwrn.
Er i'r tim cartref fynd ar y blaen diolch i geisiau gan ganolwr Lloegr, Ollie Lawrence, a'r asgellwr Melani Nanai, cafodd eu mantais ei erydu wedi cais Sam Parry a chais cosb.
Fe fethodd llinell amddiffyn y Gweilch ddwywaith olynnol wedi hynny, gan ganiatau i'r Billy Searle a Ted Hill sgorio dau gais.
Ond fe gafodd Morgan Morris ac yna George North gais yr un wedi hynny, gyda Stephen Myler yn trosi er mwyn sicrhau'r pwyntiau bonws, a'r fuddugoliaeth i'r Gweilch.