Teithwyr o Dde Affrica i orfod hunan-ynysu am 10 diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
awyrenFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pobl sy'n teithio i Gymru o Dde Affrica yn gorfod hunan-ynysu ar ôl i amrywiolyn arall o Covid-19 gael ei gysylltu gyda'r wlad.

Bydd y rheol yn weithredol o 09:00 ddydd Gwener a bydd rhaid i bobl aros gartref am 10 diwrnod.

Mae'r amrywiolyn yma yn wahanol i'r un sydd wedi'i gofnodi eisoes, ond fe all fod yr un mor heintus.

Ddydd Llun, dywedodd Dirprwy Prif Swyddog Meddygol Cymru fod yr amrywiolyn cyntaf yn gyfrifol am hyd at 60% o'r achosion yng Nghymru ar y pryd.

Mae dau achos o'r amrywiolyn o Dde Affrica wedi'u cofnodi yn Lloegr.

Dywed Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething fod y rheol hunan-ynysu hefyd yn berthnasol i bawb sy'n byw gyda rhywun sydd wedi teithio i Gymru o Dde Affrica.

Mae'r rheol hefyd yn berthnasol i bobl sydd wedi bod yn Ne Affrica yn y 10 diwrnod diwethaf hefyd.

Pynciau cysylltiedig