'Straen newydd o bosib yn achosi hyd at 60% o achosion'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib bod y straen newydd o'r coronafeirws yn gyfrifol am hyd at 60% o'r achosion yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Yng nghynhadledd coronafeirws olaf Llywodraeth Cymru yn 2020, dywedodd Dr Chris Jones bod yr amrywiad o'r feirws wedi dod i'r fei ymhob rhan o Gymru, hyd yn oed ble mae cyfraddau'n gymharol isel.
Datgelodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod 2,300 o gleifion coronafeirws yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd a bod y nifer hwnnw'n cynyddu.
Dywedodd Mr Drakeford fod y pandemig "wedi newid gêr yn hwyr ym mis Tachwedd... a nawr mae gyda ni well ddealltwriaeth pam wnaeth hynny ddigwydd".
Rhybuddiodd y byddai'r effaith peidio ymateb i'r straen newydd, mwy heintus o'r feirws ar y GIG "yn ddwfn" a bod "rhaid atal hynny rhag digwydd".
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 10 marwolaeth yn rhagor sy'n gysylltiedig â'r feirws, a 2,563 o achosion newydd.
Mae hynny'n dod â chyfanswm y marwolaethau coronafeirws yng Nghymru i 3,125 a chyfanswm yr achosion i 125,329.
"Ddydd Llun wythnos ddiwethaf, roedden ni'n ymwybodol o 10 achos yng Nghymru - erbyn dydd Gwener roedd wedi codi i 20, yn bennaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg," meddai Dr Jones.
"Ond awgrymodd dadansoddiad erbyn y penwythnos bod y straen newydd yma'n fwy cyffredin o lawer ac yn bresennol ar draws Cymru, gan gynnwys gogledd Cymru ble mae cyfraddau'r feirws ar y cyfan yn is nag yn ne Cymru."
Ychwanegodd bod y straen newydd yn bresennol yn 28% o'r samplau o Gymru yn ystod ail wythnos mis Rhagfyr, yn ôl a gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) dros y penwythnos - dwbl nifer y samplau yn ystod yr wythnos flaenorol.
"Rydym yn credu gall y straen newydd yma fod yn achosi hyd at 60% o'r heintiadau coronafeirws yng Nghymru," meddai.
"Mae'n debygol iawn mai'r amrywiad newydd yma yw'r ffactor pwysig yn y cynnydd anferthol rydym wedi ei weld yn nifer achosion yng Nghymru yn yr wythnosau diwethaf."
Dywedodd Mr Drakeford fod y "newid gêr" ddiwedd Tachwedd "wedi erydu'r hyn a enillwyd yn gyflym" yn ystod y clo cenedlaethol byr - ymgais i arafu lledaeniad Covid-19.
Canlyniad hynny, meddai, yw "cynnydd anferthol" yn nifer achosion a'r angen am driniaeth ysbyty.
Roedd cyfradd Cymru dros saith diwrnod yn 232 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth ddiwedd Tachwedd, meddai ond "heddiw, mae bron i deirgwaith hynny, sef 623 ac mae'n cynyddu".
Ychwanegodd: "Fis yn ôl, roedd yna bron 1,700 o bobl gyda symptomau coronafeirws yn ein hysbytai. Heddiw mae dros 2,300, ac mae hynny'n cynyddu.
"Mae ein hunedau gofal critigol yn gweithredu ymhell tu hwnt i'w capasiti arferol ac mae ein staff Gwasanaeth Iechyd wedi'u hymestyn i'r eithaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020