'Anwybyddu' pryderon rhieni babanod ag adlif asid

  • Cyhoeddwyd
Babi'n crioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhieni babanod sy'n dioddef adlif asid ('acid reflux') yn dweud nad yw eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifri' wrth geisio cael help.

Mae tua 40% o fabanod yn cael y cyflwr, ble mae asid o'r stumog yn codi i'r llwnc, heb fawr aflonyddwch gan amlaf, ac mae'r cyflwr wedi mynd erbyn eu pen-blwydd cyntaf yn achos 90%.

Ond mae rhai'n dioddef poen, anesmwythder a thrafferth ennill pwysau.

"Roedd yn crio 18 awr y dydd," medd Sophie Edwards o Wrecsam am ei merch, Luna, a gafodd ei geni ym mis Ebrill.

Roedd yr enedigaeth, yn ystod cyfnod clo yn anodd, meddai, "ond roedd yr hyn ddaeth wedyn yr un mor drawmatig".

Roedd Luna, meddai, "yn fabi blin, trist a sgrechlyd" nes ei bod yn bedwar mis oed pan gafodd bresgripsiwn am feddyginiaeth Gaviscon a llaeth fformiwla arbennig.

"Dywedodd bydwraig wrtha'i bod gen i 'fabi pigog' a 'mod i 'di blino'. Dywedodd ymwelwyd iechyd arall wrthym dros y ffôn i'w rhoi ar ei chefn, ar y fformiwla arferol a brwydro trwyddi."

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn cefnogi cleifion a theuluoedd gymaint â phosib, gan ddilyn canllawiau'r pandemig.

Mae asesiad risg yn cael ei gynnal yn achos pob claf, medd Alison Cowell, cyfarwyddwr gwasanaethau plant rhanbarthol cynorthwyol, ac apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael pe bai hynny'n "hanfodol".

"Petai rhiant yn poeni ynghylch bwydo'u plentyn a hynny heb ei ddatrys dros amser drwy gyngor ar y ffôn, bydd apwyntiad wyneb yn wyneb yn cael ei drefnu a'r babi'n cael ei bwyso."

Mae tudalen Facebook yn nodi pryderon rhieni eraill sy'n teimlo eu bod yn cael eu "hanwybyddu" wrth ofyn am help.

Dywedodd un bod meddyg wedi rhoi tabledi cwsg a chyffur iselder iddi "am fod fy mabi ddim yn cysgu".

Yn ôl rhiant arall "mae diffyg cefnogaeth a dealltwriaeth gyffredinol meddygon, gan gynnwys pediatryddon yn frawychus".

Aeth un rhiant cyn belled â mynegi "ofn bod e'n mynd i farw os nad oeddwn i'n cadw golwg arno. Yn chwe mis oed fe chwydodd waed ac aethon ni ag e i A&E. Cafodd ei wddf ei gymharu i un person alcoholig. Roedd mor amrwd, yr asid yn llythrennol wedi'i losgi ac achosi i blood vessel dorri."

'Mae mamau'n gwybod'

Dywed Fiona George Williams, o Abertawe, bod ei merch, Violet "yn gwag-gyfogi, tagu a chrio drwy'r adeg".

"Adeg ei brechiadau olaf, roedd wedi colli pwysau'n eithafol felly wnaethon nhw ein danfon i'r adran bediatrig," meddai.

"Ond fe wiriodd ei phwysau ac roedd yn debyg nad oedd erioed wedi bod yn colli pwysau, roedden nhw wedi'i chofnodi'n anghywir ar siart."

Ffynhonnell y llun, Fiona George Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Fiona George Williams bod rhaid ymchwilio ar-lein i geisio dod at wraidd trafferthion Violet

Dywedodd fod staff meddygol wedi cymryd ei phryderon o ddifri, ond roedd yn dal yn chwilio am wybodaeth ar-lein i geisio dod at wraidd trafferthion Violet oherwydd "mae mamau'n gwybod pan fo rhywbeth o'i le.

Awgrymodd resymau posib wedyn i feddygon "a wnaethon nhw gyd gydsynio".

"Sawl tro glywais i mai mater o brofi a methu oedd e. Pwy sy' mo'yn methu wrth drin babi?"

Dywedodd ymgynghorydd ac arweinydd gwasanaethau newydd-enedigol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Geraint Morris: "Mae'n wir ddrwg gennym glywed am bryderon Ms Williams.

"Er na allwn roi sylw ynghylch achosion unigol heb ganiatâd, rydym yn hapus i drafod ei phryderon â hi'n uniongyrchol.

"Mae adlif gastro-esoffagaidd yn gyflwr mewn babanod ac mae'n gallu bod yn drafferthus iawn iddynt ac yn heriol i'w rhieni.

"Tra bo'r triniaethau posib yn gyfyng, yn gyffredinol mae'n gyflwr sy'n gwella gydag oed - er gall achosion mwy difrifol fod angen rheolaeth fwy arbenigol."

'Naw mis o sgrechian cyson'

Roedd merch Rachel Davies, o Bontypridd, yn cael adlif tawel, ble mae'r babi'n ail-lyncu llaeth sydd wedi codi o'r stumog ond mae asid yn achosi llid yn y gwddf.

Achosodd hynny "hunllef am naw mis", wrth iddi deimlo na chafodd ei phryderon eu cymryd o ddifri'.

"Doedd hi byth yn cyfogi llawer, ond yn sgrechian bob eiliad o'r dydd a'r nos," meddai.

Ffynhonnell y llun, Rachel Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rachel Davies fod ei merch mewn poen am naw mis cyn i'r cyflwr ddechrau setlo

"Mae'n debyg es i i'r meddygfa o leiaf unwaith yr wythnos oherwydd roedd hi mewn poen parhaus. Doedd dim byd ro'n i'n ei wneud yn gweithio."

"Dywedodd pediatrydd wrtha'i bod hi wedi diflasu, yn bum mis oes, ond sylweddolodd wedi hanner awr o sgrechian nad hynny'n achos."

"Fysan nhw ddim yn gadael oedolyn mewn gymaint o boen, felly pam gwneud hynny yn achos babi ifanc?"

Yn ystod cyfnod clo, wnaeth Rachel "erfyn" am gael gweld doctor.

"Dywedodd wrtha'i bod aros yn yr ysbyty ar gyfer profion yn amhosib felly yn y bôn cawsom ein danfon adref gyda dim byd a neges i ddygymod â'r peth.

"Ro'n i'n gofalu am blentyn dyflwydd oed hefyd a 'nghariad yn gweithio llawn amser. Roedd yn uffern ar y ddaear. Yn y pen draw, wedi naw mis o sgrechian cyson, fe setlodd eitha' dipyn."

Creda Ms Davies bod y sefyllfa wedi amharu ar ddatblygiad ei merch, gan iddi ddechrau cropian wedi'r i'r cyflwr setlo ond stopio gwneud hynny pan gafodd bwl arall ohono.

"Sut fod dim mwy o help i fabis adlif, wyddwn i ddim," meddai.

Dywed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod meddygon yn dilyn y canllawiau cenedlaethol wrth benderfynu ar driniaethau adlif asid mewn babanod.

"Tra na allwn roi sylw ar achosion unigol, rydym yn deall gall symptomau adlif asid fod yn ofidus i fabanod a rhieni ac yn cydymdeimlo â hwy."

Ychwanegodd llefarydd fod y pandemig wedi effeithio'r gallu i roi'r gofal arferol, a bod staff yn parhau i weithio'n galed i gefnogi teuluoedd, ond ymddiheurodd i unrhyw un sy'n teimlo na chawson nhw gefnogaeth.

Ffynhonnell y llun, Becky Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-gyfreithwraig Becky Palmer wedi hyfforddi i helpu babanod adlif asid trwy bethau fel tylinio a ioga babi

Oherwydd trafferthion adlif ei mab ei hun, fe gefnodd Becky Palmer ar yrfa fel cyfreithiwr i sefydlu'r grŵp Colic SOS i gefnogi rhieni. Mae'r cymorth i rieni newydd yn "amrywio'n fawr", meddai.

Dywedodd fod rhai ymwelwyr iechyd yn fodlon pwyso ar feddygon teulu i helpu "ond yna rydych yn clywed am rieni sy'n wirioneddol gorfod brwydro i gael gwrandawiad".

'Rhaid wastad wrando ar y rhiant'

Mae cyfathrebu da rhwng claf â'r proffesiwn yn hanfodol, medd y meddyg teulu, Dr Eilir Hughes.

Dywed hefyd bod hi'n bwysig i barhau ag apwyntiadau, gan gynnwys rhai i bwyso babanod, ac i helpu rhieni fel nad oes angen iddyn nhw chwilio am gyngor ar-lein "sy'n bwydo gofid ac ansicrwydd ymhellach".

Mae angen i feddygon gael holl fanylion y babi i sicrhau diagnosis cywir, a rhoi digon o amser i feddyginiaethau weithio. Mae hynny'n gallu cymryd sawl wythnos.

"Mae crio gormodol yn gyflwr ynddo'i hun, ac mae ailgyfogi [arferol] yn rhywbeth y mae pob plentyn yn ei wneud," meddai.

"Ond os ydi rhieni'n teimlo bod cyflwr ddim yn cael ei gymryd o ddifri, mae hynny oherwydd y ffordd y mae'r staff meddygol yn delio â'r pryderon."

Dywed Dr Hughes bod rhaid yn aml ddibynnu'n gyfan gwbl ar ddehongliad rhiant o'r sefyllfa - weithiau am fod babi'n cysgu gydol yr apwyntiad.

"Dyma pam rydym yn annog rhieni i dynnu fideos o'r hyn sy'n digwydd, a'u dangos i ni... ni ddylai rhieni gael eu sgubo i ffwrdd gyda'r neges 'dydi o'n ddim byd'.

"Rhaid asesu'r hyn sydd i'w ddisgwyl o fabi, neu ydi o'n rhywbeth sy'n cyfiawnhau'r pryder."

Y camau cyntaf arferol yw bwydo hanner cyn gymaint ddwywaith fwy aml, a rhoi'r llaeth mewn ffordd wahanol.

Mae hefyd modd tewhau'r llaeth a rhoi Gaviscon, cyn troi at feddyginiaeth gyda chynhwysion fel omeprazole a ranitidine.

Mae'n gallu cymryd sawl wythnos cyn i unrhyw ddull neu bresgripsiwn wneud gwahaniaeth mawr, medd Dr Hughes, ac mae hynny, yn naturiol, yn achosi pryder i rieni.

Ond mae'n pwysleisio pwysigrwydd "wastad gwrando ar y rhiant", gan fod methiant i gydnabod y rheswm dros eu pryder yn "gwneud canfod triniaeth effeithiol yn heriol iawn yn aml".

Pynciau cysylltiedig