Rhybudd am dywydd garw i Gymru nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
StormFfynhonnell y llun, PA Media

Mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer rhan helaeth o Gymru yn ystod nos Sadwrn a bore dydd Sul.

Bydd y rhybudd oren yn berthnasol rhwng 20:00 nos Sadwrn a 09:00 fore Sul, ac yn ganlyniad i Storm Bella, fydd yn effeithio ar Gymru dros nos.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr TUdful, Nedd Port Talbot, Casnewydd, Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai cymunedau arfordirol gael eu heffeithio gan donnau mawr, ac fe allai'r tywydd achosi oedi i drafnidiaeth ar y ffyrdd, rheilffyrdd, i deithiau fferi a hediadau.

Gallai adeiladau gael eu difrodi ac mae perygl y gall cyflenwadau trydan gael eu heffeithio hefyd.

Mae rhybudd melyn am law trwm hefyd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng 18:00 bnawn Sadwrn a 09:00 ddydd Sul.

Fe allai hyn arwain at lifogydd mewn mannau, ac oedi i drafnidiaeth ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd medd y Swyddfa Dywydd.

Pynciau cysylltiedig