Pro14: Gweilch 14-16 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cais hwyr gan Angus O'Brien sicrhau buddugoliaeth i'r Scarlets ar ddiwedd gêm ddarbi'r gorllewin yn Llanelli brynhawn Sadwrn.
Fe roddodd cais hanner cyntaf gwych gan fewnwr y Gweilch, Reuben Morgan-Williams, a thair cic gosb Stephen Myler y fantais i ochr Toby Booth.
Ond ar ôl i gicio Dan Jones gadw'r Scarlets yn y gêm, fe groesodd O'Brien y llinell gais ar ôl chwarae medrus gan Blade Thomson.
Fe wnaeth trosiad hawdd Jones selio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf.
Gweilch: Dan Evans; George North, Tiaan Thomas-Wheeler, Scott Williams, Luke Morgan; Stephen Myler, Reuben Morgan-Williams; Gareth Thomas, Dewi Lake, Tom Botha, Adam Beard, Rhys Davies, Dan Lydiate, Justin Tipuric (capt), Morgan Morris.
Eilyddion: Ifan Phillips, Rhodri Jones, Ma'afu Fia, Lloyd Ashley, Sam Cross, Rhys Webb, Josh Thomas, Keiran Williams.
Scarlets: Angus O'Brien; Tom Rogers, Jonathan Davies, Steff Hughes (capt), Steff Evans; Dan Jones, Kieran Hardy; Wyn Jones, Ryan Elias, Javan Sebastian, Jake Ball, Morgan Jones, Ed Kennedy, Josh Macleod, Uzair Cassiem.
Eilyddion: Marc Jones, Phil Price, Pieter Scholtz, Tevita Ratuva, Blade Thomson, Gareth Davies, Sam Costelow, Tyler Morgan.