Rhybudd am rew ac eira wedi Storm Bella

  • Cyhoeddwyd
Storm BellaFfynhonnell y llun, Wales news service

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall gogledd Cymru ddisgwyl rhew ac eira dros nos.

Mae disgwyl cawodydd gaeafol yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd a Wrecsam ond gellir disgwyl iâ ar draws Cymru gyfan ar ôl hanner nos.

Daw'r rhybudd wedi i wyntoedd o hyd at 83mya gael eu cofnodi yn Aberdaron wrth i Storm Bella hyrddio ar draws Cymru nos Sadwrn.

Ar un adeg roedd cannoedd o gartrefi ar draws de a gorllewin Cymru heb drydan ac fe rybuddiodd Heddlu Dyfed-Powys bod nifer o goed wedi disgyn ar ffyrdd.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Nos Sadwrn cofnodwyd bod nerth y gwynt yn Aberdaron wedi cyrraedd 83mya

Yn ôl y Swyddfa Dywydd gallai hyd at 30mm (1.2 modfedd) o eira ddisgyn mewn rhannau o ogledd Cymru cyn 10:00 ddydd Llun gyda'r trwch yn cynyddu i 100mm (4 modfedd) ar dir uchel.

Gallai'r tywydd gael effaith ar ffyrdd a rheilffyrdd ac mae yna rybudd hefyd i gerddwyr gan y gallai palmentydd fod yn llithrig.

Pynciau cysylltiedig