Coronafeirws: Apêl bwrdd iechyd am gymorth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
University Hospital of Wales
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro anfon y neges yn hwyr nos Sadwrn

Mae'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am ysbyty mwyaf Cymru yng Nghaerdydd wedi galw am gymorth ar gyfryngau cymdeithasol.

Daw'r alwad wrth i ysbytai ar draws Cymru drin nifer uchel o gleifion coronafeirws

Nos Sadwrn fe wnaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro drydar eu bod nhw'n chwilio am fyfyrwyr meddygol ar frys i ofalu am gleifion coronafeirws.

Ddydd Sul dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd bod staffio wedi bod yn heriol ond bod y sefyllfa wedi gwella.

Fe wnaethon nhw hefyd ddiolch i bobl am ymateb ac maent yn dweud nad oes "angen eu ffonio".

Roedd y datganiad yn nodi hefyd bod yr "uned gofal critigol yn parhau yn hynod o brysur yn sgil Covid-19 a phwysau'r gaeaf".

Ffynhonnell y llun, PA Media

Roedd y neges nos Sadwrn yn galw'n benodol ar fyfyrwyr meddygol a staff, oedd â phrofiad o droi cleifion wyneb i waered, i gysylltu â'r bwrdd iechyd - proses sy'n caniatáu i ragor o ocsigen i lifo i'r ysgyfaint.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Olwen Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon, gall y sefylla waethygu

Brynhawn Sul dywedodd Olwen Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon, "bod y sefyllfa dros Gymru yn seriws iawn efo'r nifer sy'n dod i'r ysbyty gyda Covid.

"O ran 'prono' sef y sgil yr oedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gofyn amdano ry'ch chi angen 5-7 o bobl i wneud y gwaith - mae'n waith corfforol iawn sy'n golygu troi y claf ac ry'ch chi angen pobl sydd wedi cael addysg yn y maes i wneud y gwaith.

"Mae staff wrth gwrs mewn risg o gael y clefyd ac o achos hynny mae llai o bobl ar gael i edrych ar ôl cleifion.

"Dim ond dechrau gweld problemau o'r fath yma 'dan ni - gallwn ni weld problemau fel hyn ar draws Cymru i gyd yn ystod yr wythnosau nesaf."

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru rybuddio bod yna gynnydd sylweddol mewn achosion o coronafeirws ar draws y wlad - ac ers wythnos bellach mae cyfnod clo arall wedi ei gyflwyno, er fe gafodd y cyfyngiadau eu llacio ychydig ar ddydd Nadolig.