Yr actor Michael Sheen wedi dychwelyd ei OBE

  • Cyhoeddwyd
Michael SheenFfynhonnell y llun, WPA Pool
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michael Sheen ei anrhydeddu gydag OBE yn 2009

Mae Michael Sheen wedi dweud ei fod wedi dychwelyd ei OBE ar ôl treulio amser yn dysgu mwy am hanes Cymru a natur y berthynas â Phrydain.

Cafodd yr actor o Bort Talbot, ei anrhydeddu yn 2009 am ei wasanaeth i'r byd drama.

Ond mewn cyfweliad â'r newyddiadurwr Owen Jones, dywedodd y byddai wedi bod yn "rhagrithiol" cadw'r anrhydedd ar ôl darllen mwy am hanes ei wlad wrth baratoi ar gyfer darlith yn 2017.

Ychwanegodd hefyd y dylai'r Teulu Brenhinol ystyried cael gwared â theitl Tywysog Cymru unwaith y bydd Charles yn dod yn frenin fel ffordd o "gywiro un o dramgwyddau'r gorffennol".

'Rhagrithiwr'

Dywedodd Mr Sheen, 51, nad oedd wedi siarad am y peth yn gyhoeddus hyd yma am nad oedd unrhyw un wedi gofyn iddo amdano.

Daeth ei dröedigaeth pan ddechreuodd ymchwilio ar gyfer Darlith Goffa Raymond Williams dair blynedd yn ôl dan y pwnc 'Pwy sy'n siarad dros Gymru'.

"Yn fy ymchwil ar gyfer y ddarlith honno nes i ddysgu llawer am hanes Cymru," meddai.

"Erbyn i mi orffen ysgrifennu'r ddarlith dwi'n cofio meddwl mae gen i ddewis - unai dwi ddim yn rhoi'r ddarlith hon ac yn cadw fy OBE, neu dwi'n rhoi'r ddarlith ac yn dychwelyd fy OBE.

"Ro'n i dal eisiau rhoi'r ddarlith felly nes i roi'r OBE yn ôl."

Ffynhonnell y llun, YouTube
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Michael Sheen ei sylwadau mewn cyfweliad ag Owen Jones

Dywedodd nad oedd wedi golygu "unrhyw amarch" wrth wneud hynny, gan ddweud ei fod wir "wedi bod yn anrhydedd" ar y pryd.

"Nes i jyst sylwi y bydden i'n rhagrithiwr petawn i'n dweud y pethau o'n i am ddweud am natur y berthynas rhwng Cymru a'r wladwriaeth Brydeinig a'r hanes yna i gyd."

Er bod llawer o'r hanes hwnnw yn y gorffennol pell bellach, meddai, roedd rhai o'r effeithiau a'r syniadau a ddeilliodd o hynny "dal yn bwerus heddiw".

Annibyniaeth

Un enghraifft a roddodd oedd arfer y Teulu Brenhinol o roi teitl 'Tywysog Cymru' i etifedd y goron, rhywbeth mae'n dweud ddylai ddod i ben pan fydd Charles yn dod yn frenin.

"Byddai'n weithred ystyrlon a phwerus iawn petai'r teitl hwnnw ddim yn cael ei gymryd yn yr un ffordd ag y mae yn y gorffennol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Sheen wedi serennu mewn ffilmiau gan gynnwys The Queen, Damned United a chyfres Twilight

Yn y cyfweliad ar sianel YouTube Owen Jones, dywedodd Michael Sheen fod ei "ddealltwriaeth" o annibyniaeth i Gymru "wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf".

Ychwanegodd bod gweld y diffyg gwasanaethau mewn cymunedau difreintiedig yng Nghymru yn "ddeffroad gwleidyddol" iddo.

Er na ddywedodd yn bendant ei fod o blaid annibyniaeth, dywedodd ei fod yn cwestiynu a yw Cymru "dal yn elwa" o fod yn rhan o'r undeb ac y dylai "gael y dewis" i aros ynddi ai peidio.