Dreigiau'n cysylltu â'r heddlu wedi neges hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae rhanbarth rygbi'r Dreigiau wedi cysylltu gyda'r heddlu yn sgil camdriniaeth hiliol ar wefan gymdeithasol wedi ei anelu at chwaraewr.
Dywedodd y Dreigiau bod y neges, oedd wedi'i hanelu at yr asgellwr Ashton Hewitt, yn eu "ffieiddio".
Cafodd y neges ei rhannu yn dilyn colled y Dreigiau yn erbyn y Scarlets ar Ddydd Calan.
Mae'r cyfrif wnaeth rannu'r neges bellach wedi ei dileu.
Dywedodd y rhanbarth: "Mae'r Dreigiau'n trin pob achos o droseddau casineb yn ddifrifol iawn.
"Does dim lle i'r fath ymddygiad ar-lein, yn ein stadiwm, yn ein cymuned nac yn ein gêm."
Ychwanegodd y rhanbarth bod gan Hewitt gefnogaeth lawn "wrth geisio cael gwared â rhagfarn ble bynnag mae'n bodoli".
Dywedodd Heddlu Gwent bod y Dreigiau wedi cysylltu â nhw ddydd Sadwrn, a bod swyddogion wedi siarad gyda'r chwaraewr a'r clwb fel rhan o'r ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020