Arestio gyrrwr a anafwyd mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi'i arestio ar ôl bod mewn gwrthdrawiad car a adawodd ei hun a gyrrwr arall wedi'i anafu.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod Nissan Juke a Ford Ka wedi gwrthdaro ar Colchester Avenue yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd tua 13:30 ddydd Sadwrn.
Mae dyn 24 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru a'i gludo i'r ysbyty ynghyd â gyrrwr y cerbyd arall.
Nid oes gan y naill na'r llall anafiadau sy'n peryglu bywyd. Cafodd y ffordd ei hailagor am 19:00.