Paratoi ailagor ysgolion er bod undebau'n anfodlon
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ysgolion yng Nghymru yn paratoi i groesawu disgyblion yn ôl i ystafelloedd dosbarth yr wythnos hon wrth i Lywodraeth Cymru wynebu beirniadaeth gan undebau athrawon.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi amddiffyn dull hyblyg sy'n caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu pryd i ganiatáu plant yn ôl i'r ysgol.
Fe ddaeth hyn ar ôl i undebau fygwth achos cyfreithiol dros bryderon ynghylch y straen newydd mwy heintus o coronafeirws.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Llun mai cau ysgolion fyddai'r "opsiwn olaf" ac y byddai hynny ond yn digwydd pe bai'r dystiolaeth yn newid.
Mae disgwyl i rai ysgolion uwchradd agor ddydd Mercher, meddai awdurdodau lleol.
Gydag achosion Covid-19 ar gynnydd ddechrau mis Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein fel rhan o "ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad coronafeirws".
Beirniadwyd y penderfyniad ar y pryd gan Gomisiynydd Plant Cymru Sally Holland, oedd yn dadlau ei fod yn tarfu ar addysg disgyblion a myfyrwyr.
Ond roedd llawer o rieni eisoes wedi dechrau tynnu eu plant o'r ysgol yn gynnar oherwydd ofnau am orfod hunan-ynysu dros y Nadolig.
Wythnos yn ddiweddarach, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai plant yn dychwelyd i'r ysgol gam wrth gam ar ôl gwyliau'r Nadolig, ac mae disgwyl y bydd pawb wedi dychwelyd yn llawn erbyn 18 Ionawr.
Fe wnaeth hyn ennyn dicter undebau athrawon, a ddywedodd y byddai'n rhaid i ysgolion "unwaith eto geisio dygymod gyda chyhoeddiad munud olaf".
Ar 19 Rhagfyr, fe wnaeth Mr Drakeford ddileu cynlluniau ar gyfer llacio rheolau cloi am bum niwrnod dros y Nadolig ymysg pryderon ynghylch amrywiad mwy ffyrnig o coronafeirws.
Symudodd cynghorau ymlaen gyda'r cynlluniau ar gyfer ailagor ysgolion gam wrth gam, gyda mwyafrif yr awdurdodau lleol yn bwriadu ailagor ysgolion uwchradd ddydd Llun nesaf.
Gofynnwyd i ysgolion ddarparu ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr allweddol o'r wythnos hon, a disgwylir i bob disgybl gymryd rhan mewn dysgu o bell cyn i'w hysgolion ailagor ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb.
Ddydd Sadwrn, fe wnaeth undeb athrawon NASUWT fygwth "gweithredu priodol" i amddiffyn athrawon, a dywedodd undeb y penaethiaid NAHT Cymru ei fod wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru i gael tystiolaeth wyddonol ar risgiau'r amrywiad newydd - tystiolaeth yr oedd y llywodraeth yn ei "dal yn ôl" meddai'r undeb.
'Pasio'r cyfrifoldeb'
Roedd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru eisoes wedi galw am ohirio dysgu wyneb yn wyneb tan o leiaf 18 Ionawr.
Dywed yr undebau bod angen mwy o amser i asesu'r risgiau gan yr amrywiad newydd, ac maen nhw wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "basio'r cyfrifoldeb" i awdurdodau lleol.
Ddydd Sul, fe wnaeth datganiad ar y cyd gan naw undeb alw am benderfyniad cenedlaethol ar ailagor ysgolion yn hytrach na'i adael i gynghorau lleol.
Mewn ymateb, dywedodd Mr Drakeford nad oedd "unrhyw dystiolaeth bod pobl ifanc yn dioddef salwch yn fwy difrifol o ganlyniad i'r amrywiad", gan ychwanegu y bydd grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru "yn edrych ar yr holl dystiolaeth eto yn gynnar yr wythnos nesaf".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd bod penderfyniadau ynglŷn ag ysgolion "wastad yn seiliedig ar dystiolaeth" ac na fydd eu polisi yn newid heb dystiolaeth newydd.
Ychwanegodd bod cau ysgolion yn cael effaith ar nifer y rhieni sy'n gallu mynd i'w gwaith, a bod dysgu ar-lein yn fwy anodd, yn enwedig i blant ifanc.
Yn ymateb i gynhadledd y llywodraeth dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth bod angen i ysgolion gael "cymaint o rybudd â phosib" am unrhyw newid i'r polisi ar ddychwelyd i'r ysgol.
"Rwy'n teimlo dros ddisgyblion ac athrawon - ry'n ni yma ar ddiwrnod cynta'r tymor ac mae diffyg sicrwydd am beth sydd i ddod," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2021