Beth ydy rheolau'r cyfnod clo lefel 4 yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Beth yw rheolau'r cyfnod clo yng Nghymru bellach?

Aeth Cymru i gyfnod clo cenedlaethol ychydig ddyddiau cyn y Nadolig yn dilyn cynnydd mewn achosion coronafeirws.

Yn yr wythnosau cyn hynny, Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 o bedair gwlad y DU, ac ar un pwynt roedd naw o'r 10 sir â'r cyfraddau uchaf yn y DU yng Nghymru.

Nawr, dan bwysau gan undebau addysg mae Llywodraeth Cymru wedi mynd gam ymhellach gan gau'r holl ysgolion nes o leiaf 18 Ionawr, a bydd yn rhaid i ddisgyblion ddysgu o gartref.

Mae Lloegr a'r Alban hefyd wedi cyflwyno cyfnodau clo tebyg i Gymru bellach.

Beth mae hyn yn ei olygu i ddisgyblion ysgol?

Er bod adeiladau ysgolion ar gau am o leiaf pythefnos cynta'r tymor - oni bai am ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant bregus - dydy'r dysgu ddim yn dod i stop.

Mae hynny felly'n golygu bod yn rhaid dysgu o gartref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi bod mewn cyfnod clo lefel 4 ers cyn y Nadolig

Bydd dosbarthiadau yn symud ar-lein nes o leiaf 18 Ionawr, gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud mai "dyma'r ffordd orau i helpu lleihau'r lledaeniad o'r feirws".

  • Fe fydd ysgolion a cholegau yn aros ar agor i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr bregus, yn ogystal â disgyblion sydd angen cwblhau asesiadau allweddol;

  • Mae safleoedd gofal plant, fel meithrinfeydd, yn gallu aros ar agor;

  • Mae prifysgolion yng Nghymru eisoes wedi cytuno i ailagor fesul cam ar ôl y Nadolig;

  • Ni ddylai myfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn Lloegr ddychwelyd i'w prifysgolion am y tro er mwyn cadw at reolau'r cyfnod clo yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd disgyblion yn dysgu gartref nes o leiaf 18 Ionawr yng Nghymru

Y pryder mawr ar gyfer llywodraethau'r DU ydy'r straen newydd o Covid-19, ac fe ddaeth y cyhoeddiad am gau ysgolion Cymru wedi i'r Gydganolfan Bioddiogelwch gynyddu lefel bygythiad coronafeirws y DU i'w lefel uchaf - lefel 5.

Mae awdurdodau hefyd yn rhybuddio ei bod yn bosib y bydd angen cadw ysgolion ynghau tu hwnt i 18 Ionawr.

Beth ydy Lefel 4 Cymru?

Aeth Cymru gyfan i lefel rhybudd 4 - cyfnod clo ble mae pobl yn cael eu hannog i aros adref oni bai bod rheswm i beidio - ar y penwythnos cyn y Nadolig. Mae hyn yn wahanol i'r lefel 5 uchod, sydd yn arwydd o'r risg yn hytrach na lefel y cyfyngiadau.

Mae lefel 4 yma yn golygu cyfyngiadau tebyg i'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, neu'r clo byr yn yr hydref.

Dylai pobl aros adref a chymysgu gyda phobl o fewn eu haelwyd eu hunain neu eu "swigen".

Yr unig bobl sy'n gallu ffurfio swigen ar hyn o bryd ydy pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl, ac mae modd iddyn nhw ffurfio swigen gydag un cartref arall yn unig.

Mae'r rheolau ar gymysgu gyda chartrefi eraill mewn grym ar gyfer sefyllfaoedd dan do ac yn yr awyr agored - does dim hawl cwrdd ag unrhyw un o gartref arall oni bai eu bod yn rhan o'ch swigen.

Ydw i'n cael teithio?

Dylai pobl deithio os yw hynny'n hanfodol yn unig - fel mynd i'r gwaith os nad oes modd gwneud hynny o adref, gofalu am rywun, mynd i siopa am fwyd, 'nôl meddyginiaeth neu dderbyn brechlyn yn erbyn Covid-19.

Does dim hawl teithio dramor chwaith oni bai bod yn rhaid.

Mae hawl gan bobl i adael eu cartrefi i ymarfer corff, ond mae'n rhaid cadw at y rheolau pellter cymdeithasol ac ni ddylid ymarfer gydag unrhyw un sydd ddim yn rhan o'u cartref estynedig.

Mae'n rhaid i'r ymarfer corff hynny ddechrau a gorffen yn eich cartref, a does dim hawl teithio i leoliad arall i ymarfer - mynd yn y car i ddringo mynydd, er enghraifft.

Oni bai eich bod yn byw o fewn cerdded i rhywle fel mynyddoedd Eryri neu Fannau Brycheiniog, ni ddylech chi fod yn teithio yno er mwyn ymarfer corff.

Yr unig reswm dros deithio i ymarfer ydy os oes rheswm na allwch chi wneud hynny o'ch cartref, fel pobl mewn cadair olwyn.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi gorfod atal nifer o bobl rhag teithio i Eryri i gerdded yn ddiweddar

Mae siopau sydd ddim yn rhai hanfodol ar gau, ynghyd â llefydd trin gwallt, campfeydd, gwestai a busnesau lletygarwch.

Mae modd cynnal priodasau ac angladdau, ond gyda niferoedd cyfyngedig yn mynychu.

Ydy lefelau Covid-19 yn gwella ta gwaethygu?

Mae pethau i weld yn gwella ychydig, ond mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio bod y sefyllfa yng Nghymru'n parhau'n "ddifrifol iawn".

Dywedodd Vaughan Gething fod cyfradd achosion Cymru wedi gostwng o 636 achos fesul 100,000 o bobl ar 17 Rhagfyr i 446 o achosion ddydd Llun yma.

Ond mae rhybudd y gallai'r ffigyrau presennol fod ychydig yn gamarweiniol oherwydd bod llai o brofion wedi cael eu cynnal yn ddiweddar.

Er bod y lefelau wedi gostwng ychydig ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd, dywedodd y gweinidog bod achosion yn "cynyddu yn gyflym yn y gogledd".

Mae'r data diweddaraf hefyd yn awgrymu bod lefelau uwch o coronafeirws yn Lloegr na Chymru bellach, a hynny am y tro cyntaf ers tua mis.

Cliciwch yma i weld tudalen arbennig ar wefan Llywodraeth Cymru sydd gyda manylion llawn am y cyfnod clo., dolen allanol