Gwyddonwyr Abertawe yn datblygu teclyn i fesur imiwnedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn datblygu brechlyn 'smart-patch' - y cyntaf o'i fath yn y byd fydd hefyd yn mesur ymateb imiwnedd y corff.
Mae'r ddyfais yn defnyddio cyfres o nodwyddau bychain sy'n mesur un milimetr o hyd i roi'r brechlyn a monitro ei effeithiolrwydd.
Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ac arian o Ewrop fel rhan o'r ymateb byd-eang i coronafeirws.
Bydd fersiwn cyntaf yn cael ei ddatblygu erbyn diwedd mis Mawrth yn y gobaith y gellir ei gyflwyno ar gyfer profion clinigol.
Nod y tîm yng nghanolfan ymchwil IMPACT y brifysgol yw bod y ddyfais ar gael yn fasnachol ymhen tair blynedd.
Sut mae'n gweithio?
Mae'r nodwyddau bychain ar y 'smart-patch' wedi eu gwneud o ddau ddefnydd gwahanol - naill ai polycarbonad neu silicon.
Mae'r nodwyddau'n gallu treiddio i'r croen a rhoi dos o'r brechlyn.
Gellir defnyddio'r ddyfais drwy ei osod ar y fraich a'i wthio i lawr gyda phwysau cymedrol yn ôl y gwyddonwyr, a gellir ei gadw yn ei le gyda strap neu dâp am gyfnod o hyd at 24 awr.
Yn ogystal â'r broses o roi'r brechlyn, bydd y ddyfais yn mesur ymateb y claf i'r brechiad.
Mae'r nodwyddau hefyd yn gweithredu fel synwyryddion trydanol-cemegol.
Yna, mae modd defnyddio dyfais arall i roi i darlleniad o effeithiolrwydd y brechlyn.
Dywedodd Dr Sanjiv Sharma, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe: "Y rheswm rydyn ni'n eu galw'n 'smart-patch' yw oherwydd bod ganddyn nhw'r gallu i edrych ar ymateb y corff i'r brechlyn.
"Pan fyddwn yn gweinyddu brechlynnau mae'r corff yn ymateb ac yn dechrau cynhyrchu'r hyn rydym yn ei alw'n imiwnoglobwlinau.
"Mae'r imiwnoglobwlinau hyn yn ffordd o fesur am effeithiolrwydd brechu."
Ychwanegodd: "Mae'r costau i ddatblygu'r fath yma o ddyfais yn isel.
"Tu hwnt i'r pandemig, gellid ehangu'r gwaith i fod yn berthnasol i glefydau heintus eraill gan fod natur y platfform yn caniatáu ni i addasu'n gyflym i glefydau heintus gwahanol."
Yn ôl Dr Sharma, mae modd cymharu'r ddyfais yma gyda synwyryddion monitro glwcos sy'n cael eu defnyddio gan bobl â chlefyd y siwgr.
Dywedodd Olivia Howells, myfyriwr PhD sydd hefyd yn gweithio ar y prosiect: "Yn enwedig i bobl sy'n ofni nodwyddau a phigiadau, dyw'r ddyfais ddim yn treiddio yn ddwfn i'r croen o gwbl.
"Oherwydd bod y dechnoleg yma'n gallu cael ei greu'n weddol rhad hefyd, rydyn ni'n gobeithio y byddai'n o fudd i wledydd sy'n dlotach o ran ei adnoddau wrth ymateb i bandemig fel hyn yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020