Brexit: Traffig lori trwy Gaergybi wedi gostwng
- Cyhoeddwyd
Mae traffig lori trwy Gaergybi, ail borthladd mwyaf y DU, wedi gostwng i tua traean ei gapasiti arferol, yn ôl gweithredwr y porthladd.
Mae Stena hefyd wedi dyblu ei wasanaeth fferi rhwng Ffrainc ac Iwerddon gyda mwy o lorïau'n teithio'n uniongyrchol i dir mawr Ewrop.
Ers 1 Ionawr mae gyrwyr wedi gorfod darparu gwaith papur penodol i fynd â nwyddau rhwng yr UE a'r DU.
Dywed Ian Davies o Stena ei fod yn hyderus y bydd traffig yn codi eto.
Mae'r trefniadau gwaith papur wedi digwydd fel rhan o'r berthynas fasnachu newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.
Rhaid i yrwyr hefyd ddarparu prawf Covid negyddol rhwng Ffrainc a'r DU a rhwng y DU ac Iwerddon.
Dywedodd Mr Davies, pennaeth porthladdoedd y DU ar gyfer Stena sy'n berchen ar Gaergybi, ei bod yn rhatach ac yn gyflymach i yrwyr lorïau deithio trwy'r DU.
Ond mae pryderon cludwyr am aflonyddwch mewn porthladdoedd wedi annog llawer i yrru i ogledd Ffrainc ac i Iwerddon yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf.
Mewn ymateb, mae Stena wedi dechrau rhedeg ail long rhwng Rosslare a Cherbourg.
Dywedodd Mr Davies: "Mae'n debyg mai dim ond tua 30 i 40% rydyn ni'n gweithredu - mae'r ddau gwmni fferi yn dawel iawn.
"Mae gennym ni lwybrau sy'n mynd yn uniongyrchol rhwng Ffrainc ac Iwerddon.
"Mae wedi tyfu mewn poblogrwydd, rydyn ni wedi dyblu'r capasiti sydd ar gael, ond mae'n farchnad ansicr mewn gwirionedd."
Cyfeiriodd Mr Davies at bentyrru stoc cyn 31 Rhagfyr - a'r ansicrwydd cyn diwedd 2020 ynghylch a fyddai bargen fasnach gyda'r UE - fel rhai o'r rhesymau pam mae Caergybi mor dawel.
"Cawsom ffyniant enfawr cyn y Nadolig - cawsom gyfnod o saith neu wyth wythnos lle roedd Caergybi yn cymryd tua 12,500 o unedau cludo nwyddau yr wythnos, sef 9,000 fel rheol."
'Cymryd amser i addasu'
Ond mae swyddog Stena yn hyderus am ragolygon tymor hir Caergybi.
Mae Mr Davies yn disgwyl i fwy o nwyddau ddechrau symud trwy Gaergybi eto yn y dyfodol, gan ddweud bod y llwybr yn cyd-fynd yn dda â chadwyni cyflenwi mewn pryd.
"Mae yna lawer o ansicrwydd ynglŷn â Dover-Calais ynglŷn â phrofion Covid, a thros y weinyddiaeth yno, ond unwaith y bydd pobl yn dod i arfer â hynny yna rydyn ni'n disgwyl gweld lefelau arferol yn dychwelyd," meddai.
"Mae'r farchnad bob amser yn cymryd amser i addasu. Mae pobl yn cymryd amser i addasu."
Dywedodd y grŵp diwydiant Logistics UK y bu newidiadau mawr i'r diwydiant.
Mae ei reolwr polisi ar gyfer Cymru, Chris Yarsely, yn disgwyl oedi wrth i draffig ddychwelyd i lefelau arferol "oni bai bod busnesau'n sicrhau eu bod yn barod am yr amodau masnachu newydd".
"Mae bron yn amhosib dyfalu patrymau masnach yn y tymor hir," meddai.
Ond dywedodd fod "traffig ar y cyfan yn symud yn gymharol ddidrafferth".
"I lawer o fusnesau, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw orfod defnyddio'r math hwn o waith papur am fwy na 40 mlynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020