Y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BaneriFfynhonnell y llun, Getty Images

Dyw rheolau masnach yr Undeb Ewropeaidd ddim yn gymwys i'r DU bellach wedi i'r cytundeb masnach newydd ddod i rym am 23:00 nos Iau - diwrnod olaf 2020.

Mae'r cytundeb a gafodd ei gymeradwyo yn San Steffan ddydd Mercher yn 1,200 tudalen, dolen allanol ac yn ôl Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, mae'n "ddechrau newydd" i Brydain.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud fod y cytundeb yn un "sâl" ond ei fod yn well na "dim cytundeb o gwbl".

Fe ddigwyddodd Brexit ar 31 Ionawr 2020, ond mae'r DU wedi parhau i ddilyn rheolau masnachu Brwsel tan ddiwedd 2020 wrth i drafodaethau ar fasnachu barhau.

Beth mae'r cytundeb newydd yn ei olygu?

Masnach

  • Fydd yna ddim trethi ar nwyddau (tariffau) na chwotâu rhwng y DU a'r UE.

  • Bydd rhai archwiliadau newydd yn cael eu cyflwyno ar rai ffiniau gan gynnwys gwiriadau diogelwch a ffurflenni tollau.

  • Mae yna rai cyfyngiadau newydd ar rai bwydydd o'r DU. Fydd dim modd cludo cig heb ei goginio - er enghraifft, selsig - i'r UE oni bai ei fod wedi'i rewi i dymheredd o -18C.

  • Bydd yn rhaid i fusnesau felly baratoi ar gyfer trefn newydd mewn porthladdoedd ac os nad yw'r gwaith papur priodol wedi ei wneud gellid disgwyl anrhefn.

Gwasanaethau a Chymwysterau

  • Bydd busnesau sy'n cynnig gwasanaethau fel bancio, pensaernïaeth a chyfrifo yn colli'r hawl i gael mynediad awtomatig i farchnadoedd yr UE ac fe fyddant yn wynebu rhai cyfyngiadau.

  • Bydd cymwysterau pobl broffesiynol fel meddygon, penseiri a chogyddion ddim yn cael eu cydnabod yn awtomatig.

  • Yn hytrach na dilyn un set o reolau bydd yn rhaid i fusnesau gydymffurfio â rheoliadau pob gwlad yn unigol.

  • Gall hi fod yn anoddach i bobl sydd wedi cael cymwysterau yn y DU i werthu eu gwasanaethau i'r UE. Bydd rhaid i unigolion wirio rheolau pob gwlad er mwyn sicrhau bod y cymhwyster yn cael ei gydnabod.

Teithio

  • Bydd yn rhaid i ddinasyddion y DU gael fisa os am aros yn yr UE yn hwy na 90 diwrnod.

  • Fydd pasborts anifeiliaid ddim bellach yn ddilys. Bydd teithwyr yn parhau i allu mynd ag anifeiliaid i Ewrop ond bydd rhaid cael tystysgrif ar gyfer pob taith.

  • Bydd cardiau yswiriant iechyd Ewrop yn ddilys tan y dyddiad sydd arnynt. Dywed Llywodraeth San Steffan y bydd cardiau yswiriant newydd yn dod yn eu lle ond does dim manylion hyd yma.

  • Gallai teithwyr wynebu costau trawsrwydweithio (roaming charges) er y bydd y ddwy ochr yn annog cwmnïau i sicrhau "costau teg".

Pysgota

  • Yn ystod y pum mlynedd a hanner nesaf bydd y DU yn raddol yn gallu cael mwy o bysgod o'i dyfroedd ei hun.

  • Gallai y DU ddewis gwahardd cychod pysgota o'r UE o 2026 ymlaen ond yna fe allai yr UE gael yr hawl i gyflwyno trethi ar bysgod o Brydain. Gan gychwyn yn 2026 bydd y trafodaethau ar bysgota rhwng y DU a'r UE yn parhau a gellir disgwyl dadlau pellach.

Llys Iawnderau Ewrop

  • Fydd Llys Iawnderau Ewrop ddim yn gweithredu yn y DU ac fe fydd unrhyw anghydfod na ellir ei ddatrys rhwng y DU a'r UE yn cael ei gyfeirio i dribiwnlys annibynnol.

  • Os yw'r naill ochr neu'r llall yn gwyro oddi ar y rheolau presennol ynghylch safon nwyddau gallai trethi gael eu codi ar rai nwyddau yn y dyfodol.

Diogelwch a Data

  • Fydd gan y DU bellach ddim mynediad awtomatig i gronfeydd data diogelwch o bwys ond bydd modd cael mynediad drwy wneud cais.

  • Fydd y DU ddim yn aelod o Europol, asiantaeth gorfodi cyfraith yr UE, ond fe fydd gan y DU bresenoldeb yn y pencadlys.

  • Does dim rhaid i'r DU bellach gydymffurfio â rheolau diogelu data yr UE ond fe fydd data yn cael ei gyfnewid yn yr un ffordd am bedwar mis cyn belled â bod y DU ddim yn newid y rheolau.

Addysg

  • Fydd y DU bellach ddim yn rhan o'r rhaglen Erasmus - cynllun gan yr UE sy'n cynorthwyo myfyrwyr i astudio mewn gwledydd eraill, ond bydd myfyrwyr o Ogledd Iwerddon yn gallu bod yn rhan o'r cynllun oherwydd trefniant gyda llywodraeth Iwerddon.

  • Bydd myfyrwyr sydd eisoes wedi cychwyn ar gyrsiau yn yr UE yn parhau i dderbyn cymorth at eu ffioedd.

  • Ym Medi 2021 bydd cynllun wedi ei enwi ar ôl y mathemategydd Alan Turing yn dechrau. Dywed Llywodraeth San Steffan ei fod yn debyg i gynllun Erasmus ond fe fydd yn cynnwys gwledydd ar draws y byd.

Pynciau cysylltiedig